Tudalen:Cwm Eithin.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

gafaelid mewn tusw o'r ŷd a'i dorri â'r cryman neu'r sicl, a rhoddi swm gafr ar y rhwymyn gyda'i gilydd, a byddai yn daclus iawn. Dilynai'r dynion ei gilydd yn rhes, a gelwid hynny y fedel. Dull sbaeno oedd i bawb gymeryd cefn a thorri o rych i rych a'i hel â blaen y cryman.

Gwneuthum ymholiad yn Y Brython yn 1928 am ragor o oleuni ar y gair Sbaeno, a'r hen arferiad. Atebodd nifer o gyfeillion fy nghais.

Dywedai Jack Edwards, Aberystwyth, y cofiai ei dad yn sôn am yr arferiad, ac mai'r argraff ar ei feddwl ef oedd mai o'r gair Saesneg span y tarddai, agor y llaw a gafael am ddyrnaid o wenith.

Dywaid "Ieuan Mai," gŵr o Faldwyn, mai "sbanio dwrn fedi" y clywodd ef y gair yn cael ei ynganu yn ei sir ef, ac mai "grwn" a ddywedir ym Maldwyn am yr hyn a alwn ni yn gefn yr ochr arall i Ferwyn. Byddai pob medelwr yn torri'r grwn ar ei draws o rych i rych, a hel yr ŷd â'i droed nes cael swm ysgub. I fod yn fedelwr da, rhaid oedd bod yn fedrus i newid llaw i sbario