cerdded yn ofer. Pechod anfaddeuol yng ngolwg yr hen bobl oedd torri gwenith â phladur. Tasg medelwr oedd torri hanner cyfair a'i rwymo mewn diwrnod. Cyfair neu erw y gelwir ym Maldwyn yr hyn a alwn ni yn acer. Saesneg yw yr olaf yn ddiau, ond y mae erw yn ddigon cyffredin a dealledig ym Meirion.
Dywaid "Ap Cenin," ar ôl holi nifer o hynafgwyr pedwar ugain oed a throsodd, mai â'r cryman y sbaenid, a bod sail dda i gredu mai o'r gair swp y daeth-cymeryd gafael mewn dyrnaid o wenith, sef sypynno. Dywaid hefyd fod traddodiad yn ei ardal ef, Llanfairfechan, i long o'r Ysbaen fyned ar y creigiau a myned i lawr, ond i'r dynion ddyfod i dir lle yr oedd nifer o Gymry yn torri ŷd. Rhanasant eu bwyd â'r Ysbaenwyr yn eu trallod, a darfu iddynt hwythau ddatgan eu diolchgarwch trwy ddangos i'r Cymry y modd y byddent hwy yn torri'r ŷd yn yr Ysbaen, a galwyd ef sbaeno.
Dywedodd Edward Roberts, y Rhyl, a fagwyd ar yr ochr orau i'r Berwyn, y credai ef mai o'r Ysbaen y daeth y gair, fel daeth y gair sgotsio am roi dau geffyl i dynnu aradr wrth ochrau'i gilydd yn Sir Drefaldwyn o Scotland. Dywedid am geffyl ieuanc, "Mae o yn sgotsio yn dda."
Clywais Thomas Roberts, y Pistyll, Wrexham, Cymau gynt, ac a fagwyd yn Llanarmon yn Iâl, yn dywedyd mai sypynnau y clywodd ef y gair yn cael ei swnio.
Bu'r Parch. William Griffith yn holi hen frodorion cylch Abergele. Arferid sbaeno ffa â'r cryman, dau yn cymeryd cefn, un o'r rhych i'r drum a'r llall hyd y rhych arall. Gŵr a gwraig fyddent weithiau. Y pryd hynny cymerai'r gŵr ychydig yn fwy na'r hanner.
Y FEDEL WENITH.
Dywaid "Ap Rhydwen" ymhellach: Hanner cyfair cefn oedd tasg medelwr i'w dorri a'i rwymo mewn diwrnod. Er mwyn gallu torri cae, dyweder o bum acer mewn diwrnod, fel y gellid ei gynhaeafu a chael digon ohono ar unwaith i'r gadlas i wneud tâs, arferai'r ffermwyr gynorthwyo'i gilydd. Byddai deg neu ddeuddeg o ddynion yn torri: dyna a elwid y Fedel, o'r gair medi. Diwrnod mawr ydoedd yn hanes y llanciau a'r genethod, a cheid cinio arbennig a gynrychiolir heddiw gan ginio diwrnod yr Injan.