Tudalen:Cwm Eithin.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

iddynt ffon; pwysent ar y ffon, yr hon a ddalient gydag un pen iddi ar y llawr. Yna aent fel yma drwy ddawns bur ryfedd, yr hyn a roddai ddifyrwch nid bychan i'r cwmni.

Rhibo.-I fyned drwy y chware yma safai tri bachgen wyneb yn wyneb â thri arall, a chydiai pob un yn nwylaw yr un a safai o'i flaen. Ar freichiau y chwech hyn gosodid bachgen a merch i orwedd ar eu hyd gyda'u gilydd. Yna taflai y chwech gwr hwynt i fyny'n bur uchel, gan eu derbyn yn ol ar eu breichiau o hyd. Os byddai merch yn rhedeg i ymguddio ac yn anfoddlon i fyned drwy weithrediadau y "rhibo," cawsai hi ei thaflu'n bur uchel, a'i thrin hytrach yn drwsgl pan ddelid hi. Byddai pebyll merched y dyddiau presennol yn rhyfrau i ddal y prawf, ond fel hyn y treulid gynt hwyr dydd fedel wenith, ac ai pawb gartref yn gyfain eu hesgyrn, ac yn ysgafn eu calon.

Fel y canlyn y canodd un o'r hen feirdd am HANES MEDELWYR, ar fesur "Llef Caerwynt."

Ni aethom i fedi, fel tri o ynfydion,
Heb ddeall yn union mor sosi oedd y Saeson;
Tros Berwyn trwy bur-nerth, i dŷ Meistr Barnad,
Os coeliau ni eu geiriau, caen ganddo blaen gariad:
Gosod tasg i ni a wnae,
Addo bwyd, a gwlyb, a gw'lae,
Nos pan ae hi'n sydyn,
Y wraig ni roe hi un gronyn.
Ond gwellt y gwenith melyn,
Mae hwnnw yn rhy dda i Welsmyn,
Meddai'r fun wrth ben y bwrdd,
Cychwynnem fyn'd tri ffrind i ffwrdd;
Hearky, Welshmyn Pray come in,
You shall have bed and everything,
Mary Bright, come here,
Give them drink, a tanker,
Mae cysgu yn ormod carchar,
Mewn gwellt ar wyneb daear,
I ddynion mo'r ewyllysgar,
Medda'i Meistr selgar sant
Cewch wely yn y tŷ an [sic] ddal y tant.
O'r Llyfr Cywrach Llwyd, Blodeu-gerdd Cymry, 1823.