Tudalen:Cwm Eithin.djvu/134

Gwirwyd y dudalen hon

Y DYRNWR

Gwaith pwysig iawn oedd dyrnu yn yr hen amser. Ni ellid cael bwyd i ddyn nac anifail heb y dyrnwr. Cedwid dyrnwr trwy'r gaeaf yn y ffermydd mawr, oherwydd dyrnid y cyfan â ffust, yn fy nghof cyntaf. Ni wn pa faint o bobl y dyddiau hyn a wyr y gwahaniaeth rhwng ffust a choes brws, ac a wyddant fod ffust yn ddau ddarn—troedffust a lemffust. Gweler ddarlun o'r ffust, rhif 2, tudalen 106. Yr oedd eisiau cryn arferiad i ddefnyddio'r ffust, neu fe gâi'r dyrnwr lempan drom yn ei ben. Gallai Robert Ellis ddyrnu tri hobaid o geirch mewn diwrnod gyda ffust fechan, er yr ystyrid dau hobaid yn waith diwrnod pur dda. Wele ysgrif (tud. 116) yn dangos y pris a delid am ddyrnu yn 1831. Ar ôl dyrnu'r ŷd yr oedd llawer o waith i'w wneud cyn y byddai'n barod i'w anfon i'r felin. Y peth cyntaf oedd ysgwyd y gwellt, yna tynnu'r manwellt ohono. Gwneid hynny gyda chribin gref bwrpasol, gyda dwy neu dair o wdenni wedi eu rhoi trwy'r goes a'u plygu fel yr elai'r ddau ben i dwll ym mhen y gribin. na cribinio tuag atoch a chicio'r ŷd ag un troed trwy y gribin. Ar ôl hynny yr oedd, eisiau ei ridyllio.

Rhaid oedd rhoddi'r haidd trwy un gorchwyl arall—ei goli o sef torri'r col yn rhydd oddi wrth y grawn. Un math o golier a welais i, a gwelais amryw heblaw un fy nhaid oedd mewn cyflwr da. Gwaith gof cartref ydoedd, darn o haearn oddeutu dwy fodfedd o led a thua chwarter modfedd o dewdra, wedi ei blygu yn bedair congl ysgwâr a'i asio yn un gongl, yn sefyll ar ei ymyl. Mesurai o ddeuddeg i bymtheg modfedd ar ei draws. Yna cymerid darnau eraill o haearn yr un lled, feallai ychydig yn deneuach (oddeutu tri—wyth modfedd), torri tyllau mewn dwy ochr i'r sgwâr, a'u gosod hwy ar draws y sgwâr o fewn oddeutu modfedd i'w gilydd a rifetio eu pennau yn yr ochrau i gyd ar eu cyllyll, fel y dywedir, ac edrychai yn debyg i foot-scraper a welir wrth ambell gapel, ond ei fod yn sgwâr. Wrth y ddwy ochr arall gosodid darnau o haearn ar i fyny—y ddau yn cyfarfod â'i gilydd oddeutu troedfedd uwch ben y sgwâr, ac yn ffurfio soced, ac yno y gosodid y goes pren a safai yn syth ar i fyny. Ar ôl chwalu'r twr haidd yn weddol denau ar lawr yr ysgubor, defnyddid y colier yn debyg i ordd y fuddai gnoc, neu fel y gwelir dynion yn pydlo clai neu farial i'w galedu. Nid oedd min ar yr heyrn oedd ar eu cyllyll neu buasent yn torri'r gronyn: