Tudalen:Cwm Eithin.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

wrth yr eisin wedyn gyda gograu neu fath o wyntyll fechan. Yna gostyngid y garreg, a rhoddid y rhynion trwy'r felin i'w malu. Ond byddai cryn lawer o'r eisin yn aros drachefn. Deuai y mân flawd allan trwy un hopren a gelwid ef yn flawd masw, neu flawd moch; a'r blawd ceirch drwy hopren arall. Byddai eisiau ei ogryn drachefn i gael a ellid o'r eisin allan. Cymerai rhai ychydig o'r rhynion adre heb ei falu i wneud uwd rhynion am y credent ei fod yn gwneud gwell uwd na'r blawd; o'r hyn lleiaf yr oedd yn ychydig o newid ar unffurfiaeth y swper. Cymerai y melinydd a'r craswr eu tâl am eu llafur mewn toll o rynion neu flawd, ac yr oedd y mwyafrif ohonynt yn berffaith onest. Ni chymerent ragor na'u siâr, ond yr oedd ambell un anonest; a phan ddeuai rhai newyddion, cymerai amser hir iddynt ennill eu cymeriad.

Byddai'r ceffylau yn prancio wrth fyned a'r odynaid flawd ceirch adre; gwyddent yn iawn beth oedd yn y drol, a disgwylient am eu rhan ar ôl cyrraedd. Cedwid y blawd ceirch mewn cist dderw hynafol. Stwffid ef yn galed a chadwai am hir amser; ac aml y cleddid ham neu ddwy yn ei ganol, y lle gorau posibl i gadw ham wedi ei sychu. Ond byddai cryn lawer o eisin sil yn y bara ceirch gyda'r hen felinau. Aml y gwelid hwy yn sgleinio yn y dorth geirch, yr un fath â'r bran yn y bara gwenith. Ac yn rhyfedd iawn fe fagwyd tô ar ôl tô o ddynion a merched cryfion ac iach ar fara ceirch a llawer o eisin sil ynddo, a'u hoes yn llawer hwy nag oes y bobl sydd yn byw heddiw ar gacen siop. Diddorol yw gwylio ambell hogyn yn curio ar ôl iddo briodi dandi, ac yntau wedi ei fagu ar fara cartre ei fam. Pa mor gynnar y daeth yr olwyn ddŵr i droi'r felin yng Nghwm Eithin, anodd dywedyd. Gwelais un o gerrig y felin law yn Edeirnion, ac nid yw yn edrych yn hen iawn, ond bod y ffaith mai ar ochr y mynydd y caed hi yn tystio bod ei chyfnod braidd yn bell yn ôl. Mesura tua deunaw modfedd ar ei thraws, a phedair o dewdra, wedi ei rhesu yn bur fân. Pa un ai'r uchaf ai'r isaf ydyw nis gwn

Yn Y Gwladgarwr, Mawrth 1834, ceir a ganlyn (tudal. 80):

LLAW-FELINAU CYMRU.

At Olygydd y Gwladgarwr.

Hybarch Syr,—Yn yr 2il du dalen o Rifyn Ionawr, sylwech nad oeddych hysbys ymha un o blwyfau Edeyrnion