Tudalen:Cwm Eithin.djvu/142

Gwirwyd y dudalen hon

Ond credir bod yr olwyn ddŵr yno cyn hynny, ac mai ymhen tuag wyth can mlynedd ar ôl hynny y daeth y felin wynt yno. Nid oedd llawer o angen amdani hi yng Nghymru, gan fod yno ddigon o nentydd a disgyniad da i'r dŵr yn y rhan fwyaf o'r wlad. Credir mai o'r Dwyrain y daeth y syniad am y felin wynt.

Bu melinau yn cael eu gyrru gan lanw'r môr. Agorwyd un felly gyda rhwysg mawr yn Lerpwl yn 1796.

Dŵr a gwynt a fu'n malu holl flawd y wlad hon hyd 1784, pryd y dechreuwyd gyrru'r Albion Mills, Llundain, ag ager— y gyntaf yn yr holl wlad. Melid y cyfan gyda cherrig hyd nes y ddaeth y roller mill i fod. Ni wn pa un yw'r felin hynaf yng Nghymru. Yn adroddiad y Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments and Constructions in Wales and Monmouthshire, county of Merioneth, 1921, ceir a ganlyn:—

Melin y Brenin, the king's mill.

This mill, still in use, represents and probably occupies the site of the royal mill mentioned in the Extent of Merioneth of 7 Henry V.[1] It was the mill of the manor of Ystumgwern to which many of the tenants owed suit. The present buildings are comparatively modern, and do not appear to have incorporated any remains of their predecessors.

Dywedir bod yr hen felin sydd (neu oedd yn ddiweddar) o du isaf Castell Rhuthyn yn sefyll heb lawer o wahaniaeth ynddi, ond un ychwanegiad bychan, er amser Edward I.

GYRRU GWYDDAU

Cyn dyfod y trên ac yn amser y "goits fawr," byddai raid i bawb a phopeth ond y bobl fawr a'r ieir gerdded. Mynnent hwy gael eu cario bob amser. Yn ystod y cynhaeaf gwair gwelid y gwyddau yn pasio ar hyd y tyrpeg, trwy Gwm Eithin ar eu ffordd i Loegr, i sofla i'w paratoi eu hunain ar gyfer y Nadolig. Gofynnid am amynedd mawr i yrru gwyddau, gan mai cerddwyr araf ac afrosgo ydynt, a threuliant lawer o'u hamser i glegar yn lle mynd yn eu blaenau. Clywais yr arferid eu pedoli un amser trwy roddi eu traed mewn pyg rhag iddynt fyned i frifo, ond nis gallaf sicrhau. Cymerai ddyddiau iddynt deithio o Gwm Eithin i Loegr. Cofiaf yn dda hen wr o'r Ysbyty a arferai deithio

  1. 1393