gyda hwy trwy'r Cwm. Un tro, pan oeddwn yn torri gwair yn y ddôl ac yn meddwl cryn lawer ohonof fy hun fel torrwr gwair, rhoddodd ei bwys ar y wal a gwaeddodd arnaf: "Hoga'n lle torri'n hagar." Digiais yn fawr wrtho am fy sarhau felly. Nid gwyddau Cwm Eithin yn unig a welem yn pasio; deuent yn heidiau o Arfon ac efallai o Fôn hefyd, gan fod y brif ffordd o Gymru i Loegr yn myned trwodd.
Hen wraig bach yn gyru gwyddau ar hyd y nos,
O Langollen i Ddolgellau, ar hyd y nos
Ac yn d'wedyd wrth y llanciau,
Gyrwch chwi, mi ddaliaf finau,"
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.
GYRRU GWARTHEG
Rhamant ddiddorol iawn yw hanes gyrru gwartheg. A chyn amser y trên, yn yr haf a'r hydref, gwelid hwy yn yrroedd yn pasio ar hyd y tyrpeg. Anfonid llawer o wartheg Cwm Eithin i Gaint i'w pesgi ar adnoddau y wlad fras honno ar gyfer marchnad Llundain. Felly yr oedd y daith yn faith a chymerai ddyddiau lawer i'w cherdded. Yr oedd lleoedd priodol ar y ffordd i aros dros y nos. Gwyddai'r hen yrwyr amdanynt yn dda.
Yr oedd porthmon o'r enw Mr. Clough yn byw yn Llandrillo ddechrau'r ganrif. Yr oedd ganddo gi hynod am ei fedr i yrru gwartheg. Byddai Mr. Clough yn mynd ar gefn ei ferlen o Lan- drillo i Gaint, a'i gi, 'Carlo,' yn ei ganlyn. Un tro pan oedd yng Nghaint, mynnai un o'i gwsmeriaid iddo werthu ei ferlen iddo. Ar ôl hir grefu gwerthodd hi, gan benderfynu mynd adre gyda'r "goits fawr." Ond beth oedd i'w wneud â 'Charlo'? Rhoddodd y cyfrwy ar ei gefn, a chlymodd nodyn wrtho yn gofyn i'r gwestwyr lle yr arferai alw roddi bwyd a gwely i 'Carlo,' a rhoi'r cyfrwy ar ei gefn a'i gychwyn yn ei flaen; a dywedodd wrth 'Carlo' am fynd adre. Felly yr aeth, gan alw ymhob gwesty yr arferai alw gyda'i feistr, a chyrhaeddodd Landrillo yn ddiogel â'r cyfrwy ar ei gefn wedi bod ar ei daith tuag wythnos.
Porthmon oedd Edward Morris, Perthi Llwydion, ac ar un o'i deithiau y bu farw yn Essex yn 1689. Gydag un o'r gyrroedd