gwartheg yr aeth Dic Shôn Dafydd o Gerrig y Drudion i Lundain:—
"O'r diwedd Dic a ddaeth i Lunden
A'i drwyn o fewn llathen at gynffon llo,
Ar hyd y ffordd a'i bastwn onnen,
Yr oedd e'n gwaeddi— 'Haiptrw ho!'"
PEDOLI GWARTHEG
Mae carnau gwartheg yn feddalach na charnau ceffylau, ac ni allant gerdded ymhell ar ffordd galed heb gloffi. Oherwydd hynny arferid eu pedoli fel ceffylau, ond bod eu pedolau hwy yn ddau ddarn am eu bod yn hollti'r ewin, ac nid un darn fel pedol ceffyl, ac yr oeddynt yn llawer teneuach ac ysgafnach. Diwrnod hwyliog fyddai trannoeth y ffair mewn llawer llan a thref, pan fyddai dau gant neu dri o wartheg eisiau eu pedoli i gychwyn ar eu taith. Mae'n debyg pe gofynnid i un o ofaint ein dyddiau ni bedoli buwch mai pedol un darn a roddai iddi fel un ceffyl, a sodlau uchel fel sydd yn y ffasiwn gan y merched. Meddylier mewn difrif am i fuwch gerdded ar flaenau ei thraed o Gwm Eithin i Loegr!
Medi 8, 1921, cefais yr hanes a ganlyn gan Mr. Zachariah Jones, gof, Cynwyd, ac ef yn ŵr llawn pedwar ugain oed, am y dull a'r modd yr arferid pedoli gwartheg. Pan oedd Mr. Jones yn fachgen ieuanc gweithiai gyda gof yn y Bala, a arferai wneud llawer iawn o bedoli gwartheg, nid yn unig yn y Bala ond yn y trefydd cylchynol. Arferent wneud cannoedd o bedolau yn y gaeaf yn barod erbyn y deuai galw.
Wele ddiwrnod mawr ym myd pedoli gwartheg. Mae'n debyg mai record day y gelwid ef yn ein dyddiau ni. Un noswaith daeth gair i'r Bala fod trigain o wartheg eisiau eu pedoli yn Nolgellau drannoeth. Am dri o'r gloch bore drannoeth yr oedd pedwar o ddynion yn cychwyn am Ddolgellau er mwyn dechrau ar y gwaith mewn pryd. Yr oedd ganddynt faich o bedolau. Yr oedd eisiau pedwar cant a phedwar ugain o bedolau i drigain o wartheg, hoelion, morthwylion, cyllyll i naddu'r carnau, etc. Yr oedd y daith tua deunaw milltir. Cynhwysai'r pedwar ddau of, cwympwr—gŵr talgryf, esgyrniog a nerthol—a chynorthwywr. Fel y canlyn yr eid ymlaen gyda'r gwaith. Cymerai y cwympwr a'i gynorthwywr