Tudalen:Cwm Eithin.djvu/145

Gwirwyd y dudalen hon

raff a thaflent hi am gyrn un o'r bustych, a dalient ef Gafaelai'r cwympwr yn ei ddau gorn. Gafaelai'r cynorthwywr yn un troed blaen iddo a chodai ef i fyny gan ei blygu yn y glin. Yna rhoddai'r cwympwr dro yn ei gyrn ac i lawr ag ef. A daliai ef i lawr tra byddai'r cynorthwywr yn clymu ei bedwar troed. Yna yr oedd ganddynt ddarn o haearn tua thair troedfedd o hyd, blaen ar un pen a fforch ar y pen arall iddo. Gyrrid ef i'r ddaear a rhoddid y cortyn oedd yn rhedeg o'r traed blaen i'r traed ôl ar y fforch. Yna byddai'n barod i'w bedoli. Ac âi un gof ymlaen gyda naddu carnau a deuai'r llall ar ei ôl i hoelio pedolau. Yna gollyngid yr eidion yn rhydd, a cheid ei weld yn cerdded yn ei esgidiau newyddion.

Dylid cofio un ffaith, nad deunawiaid a anfonid i lawr i Loegr yr oes honno fel yn ein dyddiau ni. Cedwid y bustych hyd nes byddent yn ddwyflwydd a hanner a thair blwydd oed, felly gwelir nad gwaith bach a hawdd oedd eu dal a'u taflu i lawr. Yn y lot uchod, meddai Mr. Jones, yr oedd eidion du anferth o Sir Fôn, a gwaith caled fu cael y rhaff am ei gyrn. A phan gaed hi gwylltiodd a rhuthrodd ôl a blaen, a llusgodd y ddau ddyn trwy'r afon; ond daliasant eu gafael a dygasant ef yn ôl, a'r diwedd fu i Sir Feirionnydd roddi Sir Fôn ar wastad ei gefn. Cerddodd y pedwar yn ôl i'r Bala yr un noswaith. Y swm a dderbyniai'r meistr am bedoli oedd deg ceiniog yr eidion.

Nid wyf yn meddwl bod dim gwell wedi ei gyhoeddi ar hanes gyrru gwartheg o Gymru i Loegr, y prynwyr a'r gyrwyr, nag erthygl y Dr. Caroline Skeel, M.A., a ymddangosodd yn Transactions of the Royal Historical Society, 1926, o dan yr enw The Cattle Trade between Wales and England from the Fifteenth to the Nineteenth Centuries." Yma gwelir yr anhawster a geid yn aml yn yr hen amser i gael y gwartheg Cymreig i farchnadoedd Lloegr, a'r prisiau bychain a geid amdanynt, fel y gwelir yn "Registers of Horse and Cattle Sales" trefydd fel Yr Amwythig. Am fustach tair oed yn yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau'r ail ar bymtheg, ni cheid yn aml fwy nag o bymtheg i ddeg swllt ar hugain, wedi ei yrru yr holl ffordd o gymoedd Cymru i Loegr.

Diau mai diddorol a newydd i lawer fydd y dyfyniadau a ganlyn yn dangos y modd y deuai gwartheg duon Môn i Gwm Eithin a mannau eraill cyn codi Pont Menai, a hanes y gyrrwr ar ei daith: