Tudalen:Cwm Eithin.djvu/147

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XI

GWAITH A CHELFI FFARM

HYD y gwn i, mae gwaith ffarm yng Nghymru yn bur debyg heddiw i'r hyn oedd pan oeddwn i yn hogyn, ond fod y peiriannau a'r celfi at y gwaith wedi gwella llawer. Yr adeg honno heuid y cwbl â llaw, heddiw mae'r drill i hau, a nifer o offerynnau i lanhau'r tir, ac i hel a difa gwreiddiau. Yn yr hen amser nid oedd ond yr aradr a'r og, fforch a chribin, y bladur i dorri'r gwair a'r yd, a'r gribin fawr i'w llusgo ar eich ôl, a'r gribin fach. Gwaith y merched oedd cribinio a thaenu ystodiau. Ond heddiw yn lle plygu yn ei gefn a bwrw iddi, caiff torrwr gwair eistedd yn gyfforddus yn ei gerbyd a'r ceffylau yn ei dynnu; a'r un fath wrth daenu ystodiau a chasglu. Ond yn sicr rhoddid llawer mwy o lafur yn y tir yr adeg honno, a gellid y pryd hynny alw'r rhan fwyaf o Gymru yn dir Iâl. Paham y meddiannodd rhan fechan o gylch Bryn Eglwys yr enw, mae'n anodd gwybod.

Diau nad anniddorol i rai fyddai disgrifiad byr o offerynnau a chelfi amaethyddol Cwm Eithin, llawer ohonynt erbyn hyn wedi myned allan o arferiad, ac nid oes ond ychydig yn cofio dim amdanynt. Hyd ddechrau'r ganrif o'r blaen yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch iawn. Ni ellid mynd â throl ar hyd ond ychydig iawn ohonynt, a newydd beth oedd y drol yr adeg honno. Dywedir mai Lawrence Jones, tad John Jones, "Glan y Gors," a ddaeth â'r drol gyntaf i Gwm Eithin, tua chant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Ac yn ddigon rhyfedd, i Fwlch y Beudy, hen gartre Robert Jones, brawd "Glan y Gors," y daeth y drol a'r ecstro haearn gyntaf, a hynny yn fy nghof i. Ar gefnau'r ceffylau gyda'r pilyn pwn y cerrid bron bopeth, ac âi'r ffyrdd dros ben pob boncyn. Ni wn pa mor bell yn ôl y dechreuwyd defnyddio'r ceffyl gan yr amaethwyr. Dengys yr enw Saesneg sydd bron ar bob ceffyl o'i gymharu ag enw Cymraeg prydferth y fuwch, nad yw'n hen iawn, a chofiaf ddigon o hen frodorion a fu'n aredig gyda'r ychen. Bûm i yn troi gyda'r aradr bren sydd erbyn hyn wedi llwyr ddiflannu. Yr oedd dau fath o geir i gario ŷd a