Tudalen:Cwm Eithin.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

gwair, ac mewn lle gwlyb a llechweddog ychydig a ddefnyddid ar y drol yn fy nghof cyntaf. Y naill oedd y car llusg, a wneid o ddau bren ar hyd y gwaelod, un bob ochr, a raels ar eu traws, pedwar post, raels i wneud ochrau a thalcenni iddo, a bachu ceffyl tresi wrtho, a'i lusgo. Y llall oedd y car cefn; gwneid ef gyda dau bren, yn debyg i hanner olwyn, y pennau eraill yn gwneud dwy fraich yn estyn ymlaen fel breichiau trol, a gwneid y talcenni a'r ochrau fel y llall, ond yn lle ceffyl tresi, defnyddid y ceffyl bôn a strodur arno; felly yr oedd yn haws ei dynnu, gan nad oedd ond rhyw ddarn llai na hanner olwyn yn taro yn y llawr, ac yr oedd lawer haws ei droi o gwmpas a'i gael i'r lle y dymunid.

Clywch y briglyn crwn yn brolio,
Fel y gwnaeth e gewyll teilo;
Gwelais ddydd y gwnae fy naïn
Gewyll teilo gwell na rhain."[1]

Newydd ddyfodiad oedd y ceffyl i Gwm Eithin at wasanaeth yr amaethwr cyffredin, ac ef yn unig a gâi wellt wedi ei dorri yn yr hen amser, a diau y bu amser pan fyddai raid iddo yntau bori chnoi ei fwyd fel rhyw greadur arall. Ond fe ddaeth amser, naill ai am ei fod yn Sais ac yn ormod o ŵr bonheddig i gnoi ei fwyd ei hun, neu am na chaniatâi ei feistriaid iddo ddigon o hamdden i'w gnoi, pryd y bu rhaid dechrau torri gwellt iddo. Pwy a ddyfeisiodd yr injan dorri gwellt gyntaf, amhosibl dywedyd. Yr oedd gan fy nhaid injan dorri gwellt hen ffasiwn iawn. Yr oedd ganddo dros gan mlynedd yn ôl, ac nid yw'n debyg iddo ef ei chael yn newydd, felly mae'n bosibl ei bod o'r math cyntaf. Ni welais i yr un arall yn hollol yr un fath â hi, ac os gŵyr hogyn ffarmwyr rywbeth fe ŵyr am dorri gwellt. Dull yr injan dorri gwellt oedd fel y canlyn. Yr oedd iddi bedair coes i sefyll arnynt. Ar dop y coesau yr oedd bocs neu gafn bychan rhyw wyth modfedd o led ac o ddyfnder, ac yn agored yn ei dop ar un pen iddo, ac yn wastad â dwy o'r coesau yr oedd darn o ddur tebyg i'r dur ar y tindar, wedi ei wneud yn un darn, yn gwneud pedwar sgwâr tuag wyth modfedd bob ffordd fel y gellid stwffio pen y gwellt

  1. Pennillion Telyn, gan W. Jenkyn Thomas, Caernarfon, 1894.