trwyddo at y gyllell. Yr oedd darn o fwrdd rhydd yn ffitio ar ei dop fel caead ac yn ffitio o'r tu mewn iddo, a darn o haearn fel ecstro ar ei dop ac yn myned allan trwy ochrau'r bocs, ac yr oedd hic bwrpasol iddynt godi a gostwng. Wrth ddau ben yr ecstro bechid darn o haearn, a thredl oddi wrth y rhai hynny, fel y gellid gwasgu'r gwellt yn galed pan oeddynt yn ei dorri. Wedi ei bachu wrth un o'r coesau yr oedd cyllell hir fel cyllell dorri maip. Yna yr oedd cafn rhydd o'r un lled a dyfnder, a thua thair troedfedd o hyd, y gellid ei fachu wrth y cafn, a choes fel twm o dan fraich trol i ddal y pen arall, fel y gellid cadw yr injan mewn lle bach pan na fyddid yn ei ddefnyddio. Cymerai'r torrwr haffled o wellt wedi ei dynnu'n dda, a rhoddai ef ar ei hyd yn y cafn, a chydag un llaw gwthiai ef ychydig ymlaen bob gafael. Gwasgai â'i droed a chyda'r gyllell gan ei chadw'n glos i'r dur. Torrai'r gwellt yn gyflym iawn, yn fân ac yn wastad, ac ni chlywais 'Captyn' y ceffyl na 'Leion' y mul yn cwyno erioed fod eu bwyd yn rhy fras.
CORDDI
Pwy a feddyliodd am gorddi llaeth i gael menyn, a phwy oedd yr hogen a gyweiriodd y menyn gyntaf, tybed? Mae yn edrych yn syml iawn i ni, ond dyfais fawr a gwerthfawr oedd hi pan wnaed hi. Pa un ai'r selen fenyn ai'r cosyn yw'r hynaf? Ni wn pa fath yw windas gaws y dyddiau hyn. Hen greadures hen ffasiwn iawn a gofiaf fi. Dim ond bocs a'i lond o gerrig, ac ysgriw i'w godi a'i ollwng ar dop y cawsellt, i wasgu'r dŵr allan o'r cosyn. Pa ffurf oedd ar y fuddai gyntaf? Fe gofiaf dri math o fuddai yng Nghwm Eithin. Y fuddai dro oedd un; fe wyr pawb amdani hi, ac nid oes eisiau sôn amdani. Y ddwy arall oedd y fuddai gnoc a'r fuddai siglo. Credaf mai'r fuddai siglo oedd yr hynaf, oherwydd yr oedd llawer buddai gnoc yn fy nghof i, ond prin iawn oedd y fuddai siglo. Nid oedd y fuddai gnoc ond tebyg i ddoli twb, ond yn ddyfnach ac yn culhau at y top, lle'r oedd caead a thwll. Yna gordd, ei phen o gylch ac edyn, a choes hir yn dyfod trwy'r twll yn y caead, a thynnid hwnnw i fyny ac i lawr-gwaith digon caled. Yr oedd y merched yn corddi wrth amser, dau neu dri o gnociau cyflym a byrion, ac un hir ac araf, ac os byddai'r 'gennod ar hâst, rhoddid digon o ddŵr cynnes ynddo ar slei ac fe gorddai'n fuan.