Tudalen:Cwm Eithin.djvu/154

Gwirwyd y dudalen hon

Maint yr olwyn yn y Llyfrgell yw dwy fodfedd a deugain ar ei thraws a rhyw ddeng modfedd o led; y mae'r edyn ar y ddwy ochr allan, a rhyw ystyllen gul oddeutu dwy fodfedd wedi eu hoelio ar hyd ymyl y cylch o'i chwmpas yn gwneud cantal; felly y mae o'r tu mewn yn wag ac yno y mae'r ci bach a'i goesau byrion yn cerdded o tua chwech i fyny i tua naw, a chymeryd wyneb cloc yn gyffelybiaeth; a'r olwyn yn parhau i droi o dan bwysau'r ci bach. Yna y mae strap cul oddi wrth chwarfan yn ochr yr olwyn yn myned am chwarfan arall ar ben ecstro, ac y mae coes dafad yn cael ei chysylltu â phen arall yr ecstro hwnnw, ac yn troi yn araf o flaen tân i rostio. Diau mai treth fawr ar y ci oedd gorfod cerdded o fewn i'r olwyn am amser ac edrych ar y darn cig yn ei ymyl a'i aroglau hyfryd yn codi i'w wyneb, ond unwaith wedi ei glymu o'r tu mewn i'r olwyn rhaid oedd cerdded neu dagu. Nid rhyfedd felly yr ymguddiai at amser rhostio cig.

Nid oedd eisiau olwyn na chi i rostio cig yng Nghwm Eithin, ond yr oedd yno lawer o gorddi.

Ymddangosodd yr hyn a ganlyn yn y "Welsh By—gones," yn y Cardiff Weekly Mail, Ionawr 10, 1931—

DOG WHEELS IN PEMBROKESHIRE.

"Mr. Henry Mathias, a Haverford lawyer of a generation or more ago, told the late Mr. Edward Laws the Antiquary that he remembered eight dog—wheels in Pembrokeshire," writes a correspondent, including one at the Castle Hotel and another at the Hotel Mariners, Haverfordwest ; one at Lamphey Park, and another at Mr. George Roch's, of Butterhill. It appears, too, that there was at one time a pure breed of dogs called Turnspits' in Pembrokeshire, but some families used the Curdog' (or Corgi) or a small terrier. They were generally sharp little fellows, and were credited with sufficient intelligence to understand when a heavy dinner was to be dressed, for then they would make off and leave the kitchen—maid to turn the spitin their stead."

YR OLWYN GORDDI

Yr oedd yr olwyn gorddi yn bur wahanol i'r uchod, rhywbeth yn debyg i'r hen Treadmill yn y carcharau. Yr oedd eisiau cryn lawer o nerth i gorddi lle y byddai buches fawr. Dywedid y byddai dau gi pur fawr yn cerdded ar yr olwyn ym Mhlas yn