Tudalen:Cwm Eithin.djvu/155

Gwirwyd y dudalen hon

Ddôl. Nid wyf yn sicr pa un ai yn ochrau ei gilydd yr arferent fod ai ynteu'r naill o'r tu ucha i'r llall. Pa un bynnag, yr oedd eisiau olwyn bur fawr. Gan na welais yr un o'r olwynion fy hunan, gwneuthum gais yn Y Brython, Awst 28, a Medi 4, 1930, am i rywun a gafodd y fraint o weled un anfon disgrifiad ohoni, a chefais dri o atebion.

Dywaid H. A. Williams, Rhyl, fel y canlyn:—

Yn Y Brython diweddaf gofynna eich gohebydd, H.E., a oes rhywun yn aros a welodd gŵn yn corddi. Yr wyf yn ateb fy mod i yn un a welodd gŵn yn corddi, mewn fferm fawr yn ymyl fy nghartref. Yn yr haf, pan fyddai'r buchod. yn llaethog iawn, byddai corddi bob dydd Mawrth a dydd Gwener. Nid oeddwn ond bachgen ieuanc iawn, ac mewn hwyl garw yn gwylio paratoi y cŵn i fyned ar yr olwyn. Dau gi mawr oedd ganddynt, ac nid oeddynt yn rhy hoff o ddiwrnod corddi; a bore dydd y corddi, yn gweled y merched yn paratoi'r llaeth a'i roddi yn y corddwr, ni fyddent i'w gweled—wedi ymguddio neu fynd am dro i'r caeau, a byddai raid i rywun fyned i chwilio amdanynt a'u cyrchu at eu gwaith. Safent yn llonydd gan edrych ar yr hen olwyn, a'u tafod allan, a chael feed go dda. Yna bachu y strap wrth eu coler oedd am eu gwddf, a'r pen arall with y trawst uwch eu pen, a gorchymyn iddynt fyned, ochr yn ochr, ar yr olwyn, yr hon oedd ar osgo, ac yr oedd pwysau y cŵn yn ei throi; a byddai raid iddynt barhau i gerdded neu grogi, a'u tafod allan yn bwrw glafoerion, a deheu am eu gwynt. Ac felly am ddwy awr neu dair weithiau; ac wedi i'r llaeth dorri yn fenyn, ni fyddai eisiau troi mor gyflym, felly tynnu un ci i ffwrdd a gadael y llall i droi yn araf, a newid y ddau bob yn ail; a balch iawn fyddai'r ddau o gael order i ddyfod i lawr ar ôl gorffen. Yna gwylient am y sgram i fwyta a arferent gael ar y diwedd. Nid yw fy nghof yn ddigon clir am fanylion a maint yr olwyn. Fy syniad yw mai tua chwe troedfedd ar ei thraws oedd yr olwyn, a straps o goed tenau wedi eu hoelio yn aml fel steps i draed y cŵn fachu, a haearn danneddog o dani yn troi yr olwyn gocos bach wrth y fuddai. Credaf y bu terfyn ar hyn tua'r 70's.

Un a eilw ei hun "Runcornfab" a ddywaid:—

Cofiaf yn dda eu gweled lawer iawn o weithiau pan oeddwn yn fachgen. Fe'm ganwyd yn Amlwch, Môn, yn 1857, a byddai fy nhad yn fy ngyrru'n aml iawn ar neges iddo, ar ôl