Tudalen:Cwm Eithin.djvu/156

Gwirwyd y dudalen hon

dyfod o'r ysgol, i ffermdy Aberach, Llaneilian, ger Amlwch. Mr. J. Elias oedd enw'r amaethwr, ac yr oedd yno ddau gi mawr iawn yn ochr ei gilydd; ac y mae y disgrifiad a ddyry H.E. yn union yr un fath ag a fyddai ar gŵn Aberach. Methaf â deall sut y gallai ci bach gorddi. Treadmill oedd hon fel a fyddai mewn carcharau. Gwelais un yng Ngharchar Beaumaris yn 1908, pan oeddwn yn yr ardal honno ar seibiant haf, ond yr oedd y treadmill wedi bod yn segur am bum mlynedd ar hugain yr amser hwnnw, a chredaf ei bod yn yr un sefyllfa heddiw. Mae'r carchar wedi ei gau, ond gellir gweled y cwbl ond ymofyn â'r awdurdodau.

Dywedodd fy nghyfaill a'm cymydog John Lloyd, a hanoedd o Gwm Eithin fel minnau, iddo fod yn Llŷn yn 1898, ac ymweled gyda "Myrddin Fardd" â ffermdy yn agos i Chwilog, a gweled un o'r olwynion a holi beth ydoedd. Rhoddodd ddarlun i mi ohoni o'i gof. Credai ef fod yr olwyn honno tua phedair troedfedd ar ddeg o draws fesur. Dywedai "Myrddin Fardd" wrtho y byddai rhaid cau cŵn Llŷn i mewn y noswaith o flaen y diwrnod corddi neu y byddent yn sicr o fod wedi dianc cyn y bore; nid oeddynt yn hoff o waith.

Gwelir yn amlwg, felly, mai olwyn yn troi ar ei lled orwedd oedd yr olwyn gŵn, ac wyneb mawr iddi fel wyneb cloc, a hwnnw wedi ei fyrddio, a darnau o goed meinion wedi eu hoelio o gylch yr wyneb bob rhyw ddwy droedfedd i'r cŵn allu bachu eu traed. Y mae'n debyg fod llawr wedi ei wneud i guddio'r rhan isaf ohoni, dyweder o bump o'r gloch hyd saith. Gosodid y cŵn arni tuag wyth o'r gloch, bechid cortyn oddi wrth drawst uwch ben wrth goler y cŵn, yna byddai rhaid iddynt gerdded rhwng wyth a naw neu dagu.[1]

Ymddengys mai pur wahanol i'r uchod oedd y Treadmill. Dywaid fy nghyfaill Joseph Hughes, Bootle, iddo weled y Treadmill yn hen garchar Biwmaris yr haf diweddaf. Olwyn yn troi ar ei phen ydyw hi, medd ef, fel olwyn ddŵr, ond ei bod yn llydan iawn. Y mae lle i chwech o garcharorion gerdded arni yn ochrau ei gilydd, a therfyn rhwng pob un fel na allent weled ei gilydd. Rhaid bod rhyw drefniant i'w rhwystro i droi yn rhy gyflym pan fyddai pump neu chwech yn cerdded arni gyda'i gilydd, gan fod yn debyg y gallai na byddai mwy nag un carcharor i mewn weithiau, a rhaid oedd i'r olwyn droi gydag un. Dywaid ymhellach fod olwyn gŵn yn aros ym Mrynsiencyn, Môn.

  1. Gweler ddarlun Cŵn yn Corddi yn yr Atodiad ar y diwedd.