Tudalen:Cwm Eithin.djvu/159

Gwirwyd y dudalen hon

Rhac a batog, caib a gwddi,
Car, ystrodur, mynwr, mynci,
Picwarch, cribin, ffust i ddyrnu,
Gogor nithio gyda hynny.

Bwyall, nedde, ac ebillion,
Lli a rhasgal, gordd a chynion,
Pladur, cryman i gynhafa
Gwair ac yd mewn pryd cynhaua,
Morter, pestel, padell haiarn,
Padell ffrio, grat, a llwydan,
Siswrn, nodwydd, a gwniadur,
Troell a gardie a chliniadur,
Cyllell, gwerthyd, bêr, gwybede,
Crib mân a bras i gribo penne,
Pabwyr, gwêr, i wneyd canhwylle.

Wedi cael y rheini i'r unlle
Gwelir eisie cant o bethe,
Gwledd a bedydd a fydd gostus,
A mamaethod sydd drafferthus ;
Bydd rhaid talu ardreth hefyd,
A rhoi treth er lleied golud.
Ystyried pawb cyn gwneyd y fargen,
A ellir cadw ty 'n ddiangen,
Haws yw gorwedd heb gywely
Na byw mewn eisie'r pethau hynny.
Cyn priodi dysgwch wybod
Nad oes mo'r dewis wedi darfod.
C.D. a'i cant.

Y BACH GWAIR

Gwelais y bach gwair yn Hafod Elwy, a golwg hynafol iawn arno. Gweler y darlun rhif 4, tudalen 106. Meddai goes tebyg i goes picfforch fer, a soced i'r goes fyned i fewn, yr haearn ychydig o fodfeddi o hyd, efallai tua chwech. Estynnai allan yn syth oddi ar y goes, a blaen iddo tebyg i flaen caib. Ar ei ganol yr oedd tagell gref, tebyg i fach pysgota neu dryfer. Wrth ei ddefynddio gwthid ef i'r das wair, ac wrth ei dynnu yn ôl deuai â choflaid gydag ef. Torri gwair yn y fagwyr a gofiaf fi,