Tudalen:Cwm Eithin.djvu/160

Gwirwyd y dudalen hon

gyda'r haearn a choes tebyg i goes haearn clwt, neu raw bâl, a minnau yn sefyll ar fy nhraed i'w ddefnyddio. Yr oedd un arall yr un siâp â sgwâr, lle y dysgais fyned ar fy ngliniau i'w ddefnyddio. Dywedodd un gŵr wrthyf mai i dynnu gwair o'r daflod neu y cywlas ac nid o'r das y defnyddid ef.

A ydyw y stric, y corn grut hir,—corn buwch a gwaelod pren a hic yn agos i'r top lle y gwthid darn bach o bren yn gaead,— a'r corn bloneg, pwt, byr, tew, wedi ei wneud yr un modd, wedi diflannu, a dim ond y gresten yn aros?

MALU EITHIN

Dywedir y bu melinau eithin yn rhai o rannau mynyddig Cymru. Pan oedd yn ysgrifennu hanes Llanfairfechan i'r Brython, dywedai "Ap Cenin" fod dwy o'r cyfryw yn cael eu troi gan olwyn ddŵr yn yr hen amser yng nghymdogaeth Llanfairfechan. Yn rhyfedd iawn ni chlywais sôn fod yr un wedi bod yng Nghwm Eithin, cartref yr eithin. Ni allaf ddywedyd pa fath bethau oeddynt. Credaf fod ynddynt ryw ordd neu rywbeth i'w wasgu yn seiten ac yna ei falu fel y melir gwellt neu wair. Cofiaf i lawer o eithin gael ei ddefnyddio yn fwyd i wartheg a cheffylau yn ystod y tair blynedd poethion tua 1869—1871, pan gymerodd amryw o fynyddoedd Cymru dân gan wres yr haul, ac y buont yn llosgi am fisoedd, un yn ymyl fy nghartre yn mygu hyd ar ôl y Nadolig gan fod y tân wedi myned i lawr yn ddwfn i'r mawndir. Yr oedd yn fy hen gartref ddigon o eithin ieuainc ffrwythlon. Cariodd y mân dyddynwyr lwythi oddi yno i'w hanifeiliaid oedd ar lwgu. Torrais innau ugeiniau o feichiau i'n gwartheg ninnau. Y ffordd y paratoid hwy oedd rhoi fforchiaid ohonynt mewn cafn carreg fel cafn mochyn; yna cymerid gordd bren weddol lydan, a'u pwyo nes y byddai hynny o fonyn oedd yn dal y dail a'r pigau wedi ei gleisio neu ei ysigo'n dda. Yna eu malu yn yr injan dorri gwellt, eu hunain, neu gyda gwellt. Yr oeddynt yn fwyd maethlon iawn, a'r anifeiliaid yn awchus amdanynt. Ond dywedid eu bod yn rhy boeth i geffylau. Curai ein hen "Gaptyn" ni lawer ar ei draed ar eu holau, ond gallai "Leion" y mul eu bwyta heb eu malu, y pigau a'r cwbl.

Bûm yn defnyddio hen offeryn arall i drin eithin—math o ddwy gyllell wedi eu gosod yn groes i'w gilydd yn debyg i X, a haearn yn dyfod i fyny oddi wrthynt, ac yn ffurfio soced lle y rhoddid coes ynddo. Gosodid fforchiaid o eithin ar ddarn o