bren llydan, ac yna pwyid hwy â'r haearn yn debyg fel y corddid â gordd y fuddai gnoc, gan droi'r haearn ôl a blaen yn ddidor fel y gwneid â'r colier. Defnyddid math o fenig lledr, neu y menig cau a ddefnyddir i blygu'r gwrych, i'w codi o'r cafn a'u rhoddi ym mhreseb y gwartheg, a byddent hwythau yn arfer bod yn bur ofalus wrth eu cnoi rhag ofn y pigau a allai fod yn aros. Dywaid y Parch. William Griffiths, Abergele, iddo glywed yr hen frodorion yn sôn am hen offeryn arall—y "Drynolenbren,"[1]—maneg bren a ddefnyddid i afael yn yr eithin.
DIWRNOD HEL DEFAID
Hwyrach y dylwn, er mwyn ambell un, ddywedyd nad yw gwlân yn tyfu yn yr America, fel cotwm, ond ei fod yn tyfu ar gefn y ddafad yng Nghymru. Ond y mae amryw oruchwylion y mae'n rhaid myned trwyddynt i'w gael yn edafedd parod i weu. Y peth cyntaf yw golchi'r defaid. Diwrnod mawr a rhamantus iawn yng ngolwg y plant a'r ieuenctid yw diwrnod golchi defaid. Ar ddiwrnod poeth ym Mehefin, cyn dechrau ar y gwair, 'roedd rhaid myned i'r afon fechan i gau llyn, oni byddai'r afon yn un weddol gref a llyn naturiol yn barod ynddi. A phan ddeuai'r diwrnod golchi ymrysonai'r bechgyn pwy a gâi fyned i'r llyn i drochi'r defaid. Yr oedd y rhai hynaf yn hoffi bod ar y lan a chadw eu crwyn yn sych. Yn blygeiniol iawn, cyn i'r haul godi, cychwynnid i'r mynydd i hel y defaid i'r gorlan ar lan y llyn, a gwaith mawr ydoedd. Y pryd hynny, nid oedd y ci hel wedi dyfod i Gymru, dim ond y ci dal, fel y byddai'n rhaid i'r holl deulu droi allan i hel defaid.
Y gwahaniaeth rhwng ci dal a chi hel defaid yw hyn. Arfer y ci dal oedd rhedeg ar ôl y ddafad a ddangosid iddo, a'i dal gerfydd ei gwar, a hynny'n dyner heb adael ôl ei ddannedd ar ei chroen; a rhyfedd mor fedrus oedd gyda'r gwaith ar ôl ei ddysgu'n dda, hyd nes y dechreuai hen ddyddiau ei ddal, pryd, fel rheol, yr âi'n frwnt, ac y byddai'n rhaid chwilio am ddilynydd iddo. Pan âi dafad ar gyfeiliorn, âi'r bugail i chwilio amdani, a'i gi gydag ef, a chwplws yn ei boced. Adwaenai'r ci y nod gwlân gystal â'i feistr, ac nid oedd ond eisiau'r gorchymyn dal hi," na byddai'n gafael yn ei gwar, a'r bugail yn rhoddi'r cwplws am ei gwddf, ac yn hwylio tuag adref. Nid oedd y ci dal lawer o werth i hel y defaid at ei gilydd.
- ↑ Gweler ddarlun o Felin Malu Eithin yn yr Atodiad ar y diwedd.