Pan oeddwn yn hogyn yr oedd hel defaid y plwyf yn rhan o fywyd gwledig, sef hel defaid y "set" (dyna fel y clywais ef yn cael ei ynganu). Peth cyffredin yn ein dyddiau ni yw gweld mewn newyddiaduron: Mae dafad ag oen ar dir John Morgan, Tŷ'n Llidiart, yn dwyn y nod clust—torri blaen y chwith a bwlch tri thoriad oddi arnodd. Canwe ym mlaen y ddeheu, a bwlch plyg odditanodd. Os na hawlir hi gan ei pherchennog cyn Gŵyl Fair, gwerthir hi i dalu'r costau." Nid felly yn yr hen amser. Hawliai'r plwyf (y Festri, mae'n debyg), y defaid cyfeiliorn. Gosodid yr hawl i ffarmwr am swm neilltuol o arian i gerdded yr holl blwyf a chymeryd pob dafad ddieithr i ffwrdd. Ar ddiwrnod penodedig gwerthid hwy bob un oni ddeuai'r perchenogion i'w hawlio, a thorrid eu clustiau fel na allai neb eu hawlio oddi ar y prynwr.
Nis gwn pa bryd y gwnaed i ffwrdd â'r arferiad hwnnw. Yr oedd yn ei lawn rym pan oeddwn yn hogyn. Evan Jones, Aeddren, oedd yn cymeryd y "set," ac Edward Jones, y mab, oedd yn eu hel. Cofiaf ef yn dda yn dyfod â dau gi gydag ef, ac yn gofyn, "A welsoch chi rywbeth diarth?" Bûm gydag ef aml dro, ac yr oedd yn hynod o graff i weled dafad ddieithr, er bod ei lygaid braidd yn groesion. Safai yng nghornel y cae, un goes yn ôl, ac un goes ymlaen, gan blygu i tua hanner ei hyd a'i bwys ar ben ei ffon. A'r ddau gi yn ymryson gwylied pa un a gâi'r anrhydedd o glywed "Dacw hi !" gan ei dangos â'i law, dal hi, Mot," neu "Pero," p'run bynnag a gâi'r gwaith. A hynod mor graff oedd y cŵn i wahaniaethu un nod gwlân gwahanol i'r un oedd ar yr holl ddefaid yn y cae, dyweder dwy gengel ar draws y cefn, neu beth bynnag a fyddai nod y ffarm. Ymhen munud neu ddau byddai'r ci wedi ei dal, ac Edward Jones yn archwilio ei nod clust; ac os un ddieithr fyddai, fe allai wedi crwydro o Sir Drefaldwyn a dyfod gyda'r defaid adre o'r mynydd, edrychai dyn hel y set yn llawen, ond os byddai'n rhaid ei gollwng tynnai wyneb fel diwrnod golchi.
Ond ryw hanner can mlynedd yn ôl daeth y ci hel defaid yn bur gyffredin i Gymru. Credaf mai o'r Alban y daeth, ac erbyn hyn diau ei fod wedi disodli ei ragflaenydd allan o'r wlad bron yn gyfangwbl. Gydag ef gellir hel y defaid at ei gilydd, a dal un yn eu mysg yn hawdd ar ganol y cae, neu eu hel i'r gorlan, a gall un dyn fynd â gyr ohonynt i'r ffair, neu'r man y mynno, gydag un neu ddau o'r cŵn gwerthfawr hyn.