yn ei gwisgo hi. Ond rhaid i chi gael bod yn fwy aflawen nag arfer pan ddaw rhywun diarth, rhad arno chi, 'byga i."
Ar ôl rhoddi te i'r dieithriaid a holi a stilio, galwai'r wraig y ferch, y gŵr, neu'r forwyn, o'r naill du, a dywedai, "'Does yma ddim digon o le iddynt gysgu; rhaid i ni wneud gwely gw'mabsant." Os briws, cegin, siamber, ac un llofft wrth ben y siamber yn unig a fyddai mewn tŷ a dim ond dau bren gwely, dyweder, byddai dau wely plu, neu wely plu a gwely manus, neu ddau wely manus, yn ôl yr amgylchiadau, ar bob pren, gobennydd a philw sbar, a nifer o wrthbannau a chynfasau yn cadw yn y cwpwrdd prês. Tynnid un o'r gwelâu oddi ar y pren a gosodid ef ar lawr y siambar neu'r llofft, a gwneid ef i fyny. Neu os digwyddai na fyddai lle i osod y gwely yn y siamber neu'r llofft, cymerai'r gŵr y dieithriaid am dro cyn swper i weled yr ebol bach. Yn y cyfamser cariai'r wraig y gwely a'r dillad o'r siamber a dodai hwy yn y briws, ac ar ôl swper ai'r ymwelwyr i'w gwelâu i'r siamber; yna cyrchai'r gŵr a'r wraig y gwely o'r briws a gosodent ef yn daclus ar lawr y gegin, a chysgai'r ddau ynddo ac efallai blentyn neu ddau yn y traed. Codent yn fore drannoeth, ac ni fyddai olion o'r gwely i'w weled pan godai'r dieithriaid i fyned i'r bathroom i ymolchi ar garreg y drws. Clywais fy nain yn dywedyd, wrth i rai ei holi beth oedd ystyr gwely gwylmabsant, y defnyddid llofft yr yd, llofft yr ystabal, llawr yr ysgubor, a'r cywlas os byddai yn wag, i wneud gwelâu pan oedd yr hen wyl yn ei gogoniant. Pan ddeuai ar ymweliad â phentref, parhai am wythnos gyfan. Gwely ardderchog oedd gwely gwylmabsant; dim perygl i neb frifo wrth syrthio dros yr erchwyn pan fyddai yn orlawn.
Ond anodd iawn yw cael dim o fanylion hanes yr hen ŵyl. Beth a feddylir wrth Wylmabsant? A oedd hi yn un o'r gwyliau Eglwysig yn ei chychwyn? Ni cheir cyfeiriad ati yn Cydymaith i Ddyddiau Gwylion, 1712. Cyfeirir ati gan yr Athro Syr John Rhys ddwywaith yn ei Celtic Folklore: Welsh and Manx, dwy gyfrol, 1901, ond nid oes ganddo esboniad arni.
Dywaid yn un lle, y dywedai un Mr. William Jones o Langollen. wrth sôn am lên gwerin Beddgelert:—
Moreover, many a fierce fight took place in later times at the Gwyl—fabsant at Dolbenmaen or at Penmorfa, because the men of Eifionydd had a habit of annoying the people of Pennant by calling them Bellisians.