ieuengctyd gwammal o bell ac agos, i wledda, meddwi, canu, dawnsio, a phob gloddest. Parhâi y cyfarfod hwn yn gyffredin o brynnawn Sadwrn hyd nos Fawrth.[1]
ac Gallai mai gŵyl baganaidd oedd ar y cyntaf, ac yna ei chysylltu â gŵyl y seintiau. Yn ôl fel y clywais i, parhai'n fynych am wythnos gyfan. Cyfarfyddai dau blwyf neu ddwy ardal â'i gilydd i gystadlu yn y mabolgampau. Codai'r teimladau yn bur uchel yn aml rhwng cefnogwyr y gwahanol ymdrechwyr; yn aml setlid yr ymdrechfa mewn ymladdfeydd, yn union fel y gwneid yn aml ar faes y bêl droed neu ambell eisteddfod yn ein dyddiau ni, onibai nad yw'r gyfraith y dyddiau hyn yn caniatau penderfynu pwy biau'r llawryf trwy ymladd â dyrnau fel yn yr hen amser; rhaid i bobl heddiw gadw'r ysbryd drwg yn eu brestiau. Fel y clywais am bregethwr enwog heb fod nepell o Gwm Eithin. Yr oedd ei ddefaid wedi bod yn tresmasu ar dir cymydog, a phan alwodd yntau i weled y cymydog, dechreuodd hwnnw ei regi, pryd y dywedodd y wraig wrtho am beidio â rhegi'r gweinidog, rhag cywilydd. "O," ebe'r hen weinidog, "gadewch iddo. Mae lot o regi yn fy mrest innau, ond ni cha i mo'i ollwng o allan."
Yn Y Brython 1859 (yr ail argraffiad) ceir a ganlyn am gampau yr hen Gymry :—
"Un o nodweddau neillduol yr hen Gymry ydoedd, eu bod yn darostwng eu sefydliadau yn rhyw fath o gyfundrefn neu ddosbarth wladwriaethol. Yr ydoedd i bob peth ei gylch; —cylch cerddoriaeth, cylch barddoniaeth, cylch hela, cylch chwareu. Cylch barddoniaeth a renid i 24 cynllun; felly cylch cerddoriaeth,—" Pedwar mesur ar hugain cerdd dant y sydd;" ac felly hefyd cylch chwareu a ddosberthir i bedair camp ar hugain. Pa mor hen ydyw y dosbarthiad hwn nid ydym yn sicr. Rhoddir yma y gofres, gwedi ei thynu allan yn benaf o eiddo'r Dr. Davies, a ymddangosodd yn ei Eirlyfr Lladin a Chymraeg, yn y flwyddyn 1632 (gan egluro wrth fyned rhagom).
"Pedwar camp ar hugain y sydd,"—Camp yn arwyddo celfyddyd, medr—gymnastics.
- ↑ Gwaith gan Robert Jones, Rhos Lan, Wrexham, 1898. "Y Llenor, Llyfr xv."