Tudalen:Cwm Eithin.djvu/172

Gwirwyd y dudalen hon

ac hen fachgen doniol lawen oedd efe hefyd. Medrai adrodd holl chwedlau ysprydion y fro, a chwareu ffidil yn hylaw. Wedi cael tôn ar y ffeiff,—un wyllt—siongc—nwyfus,—dyma modryb Gwen yn gwaeddi yr eiltro, " Roli tyr'd i'r llawr," a'r hên ŵr yn ufuddhau i'r alwad mewn munud; er danghos hyn, dyna fo yn taflu ei ddwy glocsan, ac yn piccio atti hi i agor y ddawns! Yr oedd yno o leiaf saith o honynt wrthi hi yn ysgwyd eu berrau yn hwylus heinyf! Hên ac ieuangc yn ymddifyru gyda'r un ynni ac awydd a'u gilydd! Ar ol cael eu gwala o glettsio eu traed: eisteddwyd wed'yn a chaed cystal dysglaid o dê, ac a dywalltwyd erioed drwy big y tebot! Yn wir yr oedd tê'r Hafod yn dda! Pawb yn un a chyttun heb air garw na golwg sarug! Arol hyn caed canu hefo'r tannau. Pawb yn hyddysg a'r gwaith o'r ieuengaf hyd yr hynaf, ac nid oedd fawr o berygl cael mesglyn allan o'i le yn eu gwaith. Holwyd hwy a fyddent yn arfer cael noson felly yn fynych, a chaed ar ddeall mai dim ond ryw deirgwaith yn yr wythnos! Fel hyn yn swn awen, cân, a thelyn, y mae'r teulu yma'n treulio eu hoes. A thyma beth arall, pan ddaw hi yn amser cadw dyledswydd nid oes neb dwysach a thaerach wrth orseddgrasnaf'ewyrth Rolant pan fydd ar ei liniau;—nac un sydd ryddach" ei chalon, burach ei moes, a glanach ei thafod, na modryb Gwen. Ni ddaw cardottyn byth i'r drws heb gael ei ddiwallu, ni ddaw'r un o blant tlodion y mân deños yno heb gael am ddim caniad o laeth tew à chlewtan o frechdan; yn y gwyliau, llawer dafad dda a rennir yno, a thrwy gydol y flwyddyn, gellir dweydam yr Hafod ħefo'r anfarwol IEUAN BRYDYDD HIR, pan dorres allan fel hyn:

Agor dy drysor dod ran—yn gallwych
Tra gelli i'r truan:
Gwell ryw awr golli'r arian,
Na chau'r god, a nychu'r gwan.

Y NOSWAITH WEU

Hyd ryw drigain mlynedd yn ôl, yr oedd y Noswaith Weu yn sefydliad pwysig yn hanes bywyd teuluaidd Cwm Eithin A dichon nad anniddorol fydd disgrifiad gweddol fanwl ohoni, gan ei bod erbyn hyn wedi myned o'r ffasiwn yn lân, a chyfan- gorff y genedl heb wybod dim o'r hanes, fel llawer o bethau