Tudalen:Cwm Eithin.djvu/173

Gwirwyd y dudalen hon

eraill a fu'n elfennau pwysig yn ffurfiad bywyd gwledig Cwm Eithin. Ni wn pa mor gyffredinol oedd y noswaith weu dros Gymru a oedd hi yn gyfyngedig i'r cymoedd, neu a gynhelid hi o dan ryw enw arall mewn rhannau eraill o Gymru? Clywais mai "Ffrâm" y galwai pobl Llanuwchllyn hi. Mae'r enw hwnnw yn ddirgelwch hollol i mi. Noswaith Weu y galwem ni hi. Dywedir am yr Hybarch Ddafydd Cadwaladr iddo ddysgu darllen wrth sylwi ar y llythrennau ar y defaid o gylch ei gartref—Erw Dinmael; ac ar ôl iddo fod yn hogyn ym Mhlas Garthmeilio, iddo fyned yn was bach i Nant-y-cyrtiau, a'i fod erbyn. hynny wedi dysgu'r Bardd Cwsc a Taith y Pererin ar ei gof, a bod galw mawr arno yng Nghwm Tir Mynach i adrodd darnau ohonynt yn y Nosweithiau Gweu. Ac os oedd y trigolion yn mwynhau y rhai hynny, nid oeddynt yn isel iawn eu moes na'u meddwl. Mae Cwm Tir Mynach agos cyn nesed i Lanuwchllyn ag ydyw i Gwm Eithin. Pa fodd na cheid yr un enw yno sydd ddirgelwch. Ond rhai gwreiddiol iawn yw pobl Llanuwchllyn. Tebyg eu bod wedi gweled rhyw un yn rhoi hosan ar y gweill a'i gweled yn debyg i ffrâm wyntyll ar ei gogwydd.

Cynhelid ambell Noswaith Weu yn fy amser i, ond yr oedd yr hen sefydliad annwyl yn dechrau edwino. Yr oedd y ddarlith, y cyngerdd a'r cyfarfod cystadleuol yn dechrau ennill eu lle, a'r hen ffurf ar adloniant o dan ryw fath o gondemniad. Cofiaf yn dda iawn un Noswaith Weu yn fy hen gartre pan oeddwn hogyn bach, fy nain yn llywyddu. Mynnodd gael un yn fuan ar ôl i ni symud i Gwm Eithin o Gwm Annibynia. Yr oedd wedi bod yn sefydliad cyson yn ei hen gartref—Pentre Gwernrwst— pan oedd hi'n ieuanc, a dyna ei ffordd hi o'i hintrodiwsio ei hun i ardal newydd gwahodd y merched a'r bechgyn ieuainc i Noswaith Weu. Yr wyf yn meddwl mai dyna'r un olaf a gynhaliwyd yng Nghwm Eithin, ac efallai yr olaf yng Nghymru. Y peth tebycaf iddo, mae'n debyg, yn ein dyddiau ni yw'r At Home a gynhelir yn nhai'r mawrion. Nid oedd bron yr un capel Ymneilltuol o fewn y wlad gant a deugain o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd y cyngerdd na'r ddarlith wedi eu geni. Nid oedd ond ychydig o wasanaeth crefyddol yn y llannau ar y Sul. Nid oedd y werin yn myned i'r eisteddfod, dim ond ychydig o feirdd a llenorion. Nid oedd gan y bobl gyffredin unrhyw fan cyfarfod ond y dafarn. Ond ar nosweithiau hirion y gaeaf yr oedd y Noswaith Lawen a'r Noswaith Weu. Ni fûm erioed mewn Noswaith Lawen. Credaf