mai'r gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod y Noswaith Lawen yn cael ei chynnal fel rheol yn y ffermydd mawr lle y byddai cegin helaeth, neu o'r hyn lleiaf lle fel Hafod Lom a digon o le ynddo i "ganu cainc ar fainc y simne." Ond am y Noswaith Weu, gellid ei chynnal hi mewn tyddyn bychan neu fwthyn y gweithiwr, ac felly yr oedd yn sefydliad mwy cyffredinol na'r Noswaith Lawen. Yr oedd felly yn y rhan o'r wlad y cefais i fy nwyn i fyny ynddi.
Pan benderfynai teulu gael Noswaith Weu, y gwaith cyntaf oedd penderfynu pwy i'w gwahodd. Dibynnai'r nifer ar faint y tŷ, ac adnoddau'r gwahoddwyr. Fel rheol merched a llanciau ieuainc fyddai'r gwahoddedigion. Byddai gwraig y tŷ wedi bod yn brysur trwy'r prynhawn yn paratoi'r wledd, gwneud leicecs[1] a chrasu cacen ar y radell, ac un o'r plant wedi bod yn y pentref yn nôl torth wen a phwys o siwgwr lôff, ac erbyn y deuai'r gwahoddedigion byddai popeth yn barod. Y merched a ddeuai i mewn gyntaf. Arferai'r llanciau loetran ychydig ar ôl. Pan geid pawb i eistedd, gwelid y merched i gyd yn hwylio i weu, pob un â'i hosan a'i gweill a'i phellen edau, a deuai ambell lanc a'i weill a'i bellen edau i weu gardas er mwyn hwyl. Ond ychydig iawn a dyfai'r sanau yn y Noswaith Weu, oherwydd byddai straeon digrif y llanciau a'u gwaith yn tynnu'r gweill o dan y pwythau yn eu rhwystro.
Yn ddigon aml byddai ambell hen frawd ychydig diniweitiach. na'r gweddill, neu a gymerai arno ei fod felly, ac a fedrai arogleuo Noswaith Weu o bell, a deuai am dro i edrych am y teulu y noswaith honno heb wybod dim am yr amgylchiad er mwyn o bosibl cael rhan o'r wledd, ac anaml y methai â chael gwahoddiad i mewn. Clywais am un, Wil y Cwmon, a arferai wneuthur felly. Un tro, wedi iddo gael dod i mewn i wledd fras, estynnwyd platiaid mawr o leicecs iddo yn nofio mewn ymenyn gan un o'r merched ieuainc oedd wedi gweld peth felly yn cael ei wneud yn rhywle, yn lle yr hen arferiad o ddywedyd, "Dowch, cyrddwch ato, gwnewch fel pe baech chi gartre; mae'n ddrwg iawn gen i na fase geni rwbeth gwell i gynnig i chwi; mae arna i ofn nad ydi'r leicecs ddim. yn neis." Ond gan nad oedd Wil yn deall y ffasiwn newydd gafaelodd yn y plât, rhoddodd ef ar y pentan yn ei ymyl, a bwytaodd y cwbl. Gofelid bob amser am gael digrifddyn neu un da am ddywedyd straeon, a cheid toreth o straeon Tylwyth Teg a straeon am ysbrydion. Fel rheol adroddid digon o'r diweddaf i beri gormod