Tudalen:Cwm Eithin.djvu/175

Gwirwyd y dudalen hon

o ofn ar y merched fyned adref eu hunain, a châi'r llanciau esgus i fyned i'w danfon. Ceid llawer o hanes yr ardal ynddynt, megis pwy oedd cariad hwn neu hon. Weithiau âi sôn allan fod Miss Jones, y Fron, a John Morus, mab yr Hendre, yn caru, ond byddai'r ddau mor slei fel yr oedd yn amhosibl cael sicrwydd. Nid oedd hafal i'r Noswaith Weu i gael allan ai gwir ai gau y stori. Gwahoddid y ddau: byddai'r ferch i mewn yn gyntaf, a gofelid bod rhywun a fedrai ddarllen arwyddion i mewn. Fel y gwyddys fe gaiff pob merch ieuanc electric shock pan ddaw ei chariad i mewn i ystafell, neu felly yr oedd merched cyn dyddiau'r Suffragettes. Caiff ambell un hi yn drom iawn, a rhaid iddi wneud rhywbeth i ollwng y current allan. Os bydd plentyn. bach yn ymyl, gafaela ynddo a chofleidia ef, neu os cath fydd gafaela yn honno a theifl hi i fyny ac i lawr. Oni chymer y ffurf honno, mae'n sicr o ddangos yn lliw yr wyneb. Ar amgylchiad felly byddai rhyw William Hendre Bach yn gwylio'r symudiadau, ac os gwelai arwydd, gofynnai i wraig y tŷ, "Be ydi'r achos fod Miss Jones y Fron wedi cochi, Mrs. Jones?" Be, ydi hi wedi cochi, William?" "Wel ydi siwr, 'dat i chlustia. Ysgwn i ydi ei chariad hi yn rhywle o gwmpas, tybed?" Gomeddai lledneisrwydd a chymdogaeth dda ddilyn y mater ymhellach ar y pryd, ond byddai'r stori wedi ei chadarnhau.

Am y Noswaith Weu, dyfynna Syr John Rhys yn ei Celtic Folklore, Welsh and Manx, 1901, a ganlyn o eiddo William Jones, Llangollen :—

"I was bred and born in the parish of Beddgelert, one of the most rustic neighbourhoods and least subject to change in the whole country. Some of the old Welsh customs remained within my memory, in spite of the adverse influence of the Calvinistic Reformation, as it is termed, and I have myself witnessed several Knitting Nights and Nuptial Feasts (Neithiorau), which, be it noticed, are not to be confounded with weddings, as they were feasts which followed the weddings, at the interval of a week. At these gatherings song and story formed an element of prime importance in the entertainment at a time when the Reformation alluded to had already blown the blast of extinction on the Merry Nights (Noswyliau Llawen) and Saints' Fêtes (Gwyliau Mabsant)."