rheol. Wedi ei goleuo, byddai raid symud y gannwyll bob rhyw bun munud gan y byddai wedi llosgi at y ganhwyllbren, oni fyddech yn ei dal yn eich llaw i ddarllen.
Yr oedd y gannwyll wêr yn prysur ddisodli ei rhagflaenydd y gannwyll frwyn yn fy nghof i, yn enwedig yn y ffermydd, pan ellid fforddio i ladd mochyn at iws y teulu. Defnyddid y gwer creifion i wneud canhwyllau. Cedwid y flonegen i wneud tost lard a thymplen siwed, bwyteid y creision yn aml, hyd yn oed o'r creifion. Yr oedd merched i'w cael yn myned o gwmpas y tai i wneud canhwyllau yn union ar ôl amser lladd moch, ddechrau'r gaeaf; gwelid hwy yn myned o gwmpas â'u hofferynnau gyda hwy, sef dau bolyn main, oddeutu saith neu wyth troedfedd o hyd, tebyg i clothes props a ddefnyddir yn ein dyddiau ni lle nad oes gwrych i sychu'r dillad, a bwndel o briciau canhwyllau oddeutu dwy droedfedd o hyd a thewdwr bys. Ar ôl cyrraedd, gosodid y polion i orffwys eu pennau ar ddwy gadair oddeutu deunaw modfedd oddi wrth ei gilydd. Tra byddai'r gwêr yn toddi ar y tân, cymerid pellen o wic; torrid hwnnw tua deunaw modfedd o hyd; plygid yn ei ganol am fys un llaw, tra cydid yn ei ben a'r llaw arall, a rhoddi ychydig o dro ynddo a rhoddi'r pric cannwyll drwy dwll y bys. Pan geid deg neu ddeuddeg ar y pric, ryw ddwy fodfedd oddi wrth ei gilydd, gosodid y priciau ar draws y polion oddeutu tair modfedd oddi wrth ei gilydd. Yna tywelltid y gwêr i badell neu bot llaeth llydan; yna dechrau yn un pen i'r rhes, a'u trochi yn y gwêr; a byddai rhaid gwneud hynny ugeiniau o weithiau cyn y ceid y gannwyll yn ddigon tew. A chymerai'r gorchwyl gryn oriau. Ychydig iawn o bobl a feddyliai am brynu cannwyll yr amser honno; ond y mae'n debyg mai prynu canhwyllau y mae pawb erbyn hyn, ac nad oes neb yng Nghwm Eithin a fedr wneud cannwyll frwyn nac un wêr; a phe bai'r cyflenwad o'r siop yn pallu oherwydd rhyw achos, fe fyddai'n dywyllwch mawr yno.
HEN ARFERION NOS GALANGAEAF
Ymddengys fod Gŵyl Nos Galangaeaf yn un hen iawn yng Nghymru. Ond yr oedd bron wedi colli ei gafael yng Nghwm Eithin yn fy nghof cyntaf i; ychydig rhagor o sylw a wneid ohoni nag a wneir yn awr. Cofiaf ambell goelcerth yn cael ei goleuo ar y topiau. Ac yr oedd i'r afalau a'r cnau le pwysig