Tudalen:Cwm Eithin.djvu/179

Gwirwyd y dudalen hon

ymysg y plant, fel yn ein dyddiau ni. Yn nhraethawd Charles Ashton ar Fywyd Gwledig yng Nghymru ddechreu y ganrif o'r blaen, mae erthygl bur faith ar "Nos Calangaeaf."[1] Ysgrifennai Charles Ashton yn 1890. Ni allaf wneud yn well na dyfynnu ychydig ohoni:—

"Yr oedd Nos Calangaeaf yn noson bwysig hefyd. Ac nid oedd ein teidiau yn esgeulus o gadw yr hen ddefod o gyneu tanau ar y noson hon, pryd yr elent yn lluoedd i'r ffriddoedd a'r bryniau cyfagos i wneuthur coelcerthi o redyn ac eithin. Dywedir wrthym fod yr arferiad hwn mor hyned ag amser y Derwyddon; ac mai dyben y tanau oedd boddhau y duwiau, er na ddywedir pa lês a ddeilliai iddynt trwy hyny. Yr hen syniad uniawngred oedd y dylid diffodd y tân yn mhob aelwyd ar y noson hon, a'i ail gyneu gyda phentewyn a ddygent adref o'r goelcerth, ac ychydig a fyddai llwyddiant yr hwn a esgeulusai gymeryd o'r tân cysegredig. Ond er cryn lawer o holi methasom a chael allan fod y rhan bwysig hon o'r seremoni yn cael ei chadw i fynu o fewn cyfnod ein testun. Ond y mae amryw yn cofio am yr "hwch ddu gwta” a fyddai yn ymlid y werin anwybodus adref oddiwrth y goelcerth. Y diafol ei hunan, mewn rhith hwch ddu â chynffon gwta, ydoedd yr ymlidiwr. Ac o bosibl na fyddai ei gynddaredd yn erwin yn eu herbyn y pryd hwn am eu bod newydd foddhau yr ysbrydion da. Nid oes dros dri ugain mlynedd er pan yr oedd pobl yn credu fod gan yr hwch ddu nodwyddau blaenllymion gyda'r rhai y byddai yn trywanu yr hwn a fyddai yr olaf yn myned dros ben camfa.'

Felly rhedai a rhuthrai pawb fel ag i beidio â bod yn olaf anffortunus. Tebyg mai dyma'r dybiaeth a roddodd fod i'r hen ddywediad, "Nos galangaea', bwgan ar ben pob camfa." Ond er gwaethaf yr hwch ddu, a'r bwganod, mynnai'r bobl wledig ychwaneg o ddifyrrwch wedi cyrraedd adref. Dechreuid y gweithrediadau trwy i'r bechgyn godi afalau o lestraid o ddwfr am y gorau. A chaffai pawb hynny o afalau a lwyddent i'w codi yn y ffordd hon. Y mae digon yn cofio'r arferiad o godi afalau o'r dwfr, ond ni all neb benderfynu pa bryd y sefydlwyd y ddefod.

  1. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Bangor 1890. (1892).