Tudalen:Cwm Eithin.djvu/180

Gwirwyd y dudalen hon

YR WYLNOS

Bûm mewn gwylnos droeon pan oeddwn yn hogyn yng Nghwm Eithin. Fel y canlyn y dywaid William Davies yn Llen Gwerin Meirion[1] amdani:

"Nid ydym heb gredu fod ein teidiau a'n neiniau yn teimlo mor ddwys ag ydym ninau wrth golli eu perthnasau a'u cyfeillion, ond yr oedd ganddynt ffordd ryfedd i ddangos eu teimladau —yr oedd y cynulliadau hyn ar ddechreuad y ganrif yn warth i ddynoliaeth. Y mae yn wir y cynelid rhyw gymaint o gyfarfod gweddio yn rhai ohonynt gynt. Ond ar ol myned trwy y gwaith hwnw, eisteddai y rhai fyddent wedi ymgynull yn nghyd, neu o leiaf lawer ohonynt, i yfed cwrw a chwareu cardiau. Yr oedd chwareu cardiau yn hynod boblogaidd yn Nghymru yn nechreu y ganrif bresenol, ac yr oedd yn foddion difyrwch mewn modd neilltuol mewn gwylnos. Hysbyswyd ni gan un a fu mewn gwylnos mewn ty yn mhlwyf Llanymawddwy er's oddeutu deng mlynedd a thriugain yn ol, [sef tua 1820] iddi weled y chwaraewyr, o ddiffyg bwrdd cyfleus, yn chwareu ar gaead yr arch. Dichon mai eithriad oedd y tro hwn, ond yn ol yr hyn a ddywedwyd wrthym, yr oedd gwylnosau y rhan gyntaf o'r ganrif yn Nghymru yn ddigon tebyg i wakes, neu wylnosau y Gwyddelod yn y dyddiau hyn."

Darlun du iawn a geir gan Robert Jones, Rhoslan, o'r gwylnosau. Dywaid yntau mai ychydig oedd y galar ar ôl y meirw, ond y rhai a fyddai'n marw yn ganol oed ac yn gadael nifer o blant ar eu hôl. A rhydd hanes rhyfedd iawn am wylnos i hen ferch. Ymddengys na theimlai ein tadau fawr o golled ar ôl hen lanciau a hen ferched. Ni wn a fu'r gwylnosau mor baganaidd erioed yng Nghwm Eithin ag yr ymddengys eu bod yn Llanymawddwy a Sir Gaernarfon. Yr oeddynt yn wahanol iawn yn fy nghof cyntaf i. Ni welais i erioed gwrw na chardiau mewn gwylnos; cyfarfodydd gweddïo dwys iawn oeddynt ymysg yr ymneilltuwyr ac anerchiad neu bregeth gan y person ymysg yr eglwyswyr. Yr olaf y bûm ynddi oedd un i hen wraig Ty'n Twll yn 1872, "Elis Wyn o Wyrfai," yn gweddio ac yn annerch. Yn un o'i

  1. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog 1898. (1900).