Tudalen:Cwm Eithin.djvu/182

Gwirwyd y dudalen hon

DEFOD PRIODAS

Ceir cryn lawer o hanes defod priodas yn Yr Hynafion Cymreig, gan Peter Roberts, a gyhoeddwyd yng Nghaerfyrddin yn 1823.

Wedi i fab a merch benderfynu priodi, anfonid cyfaill i'r mab ieuanc i ofyn y ferch gan ei thad. Wedi cytuno ar y dydd, anfonid y gwahoddwr i'r wledd allan. Âi yntau o gwmpas yr holl gymydogaeth i wâdd pawb i'r briodas gyda rhigwm hir o farddonaeth neu anerchiad tebyg i'r un a ganlyn:

Gan ein bod ni yn bwriadu cymeryd arnom yr ystâd o Lân Briodas, ar ddydd Iau, y 18fed o Ragfyr nesaf, ein cyfeillion a'n cefnogant i wneud NEITHIOR ar yr achlysur yr un diwrnod, yr hon a gedwir yn Nhŷ Tad y Ferch Ieuanc yn Heol-y-Prior, yr hwn a adnabyddir wrth yr arwydd Geffyl Gwyn; yno y gostyngedig ddeisyfir eich llon gyfeillach, a pha Rodd bynag a weloch fod yn dda ein cynnysgaethu â hi, a dderbynir yn ddiolchgar, ac a ad—delir yn llawen, pa bryd bynag y galwer am dani ar yr unrhyw achlysur,

Gan eich gostyngedig Weision,
A.B.
C.D."

Y mae Rhieni y Mab Ieuanc, a'i frodyr a'i chwiorydd, yn dymuno i bob Pwythion ag sydd yn ddyledus iddynt hwy, i gael eu dychwelyd i'r Mab Ieuanc ar y diwrnod rhagddywededig, a hwy a fyddant yn dra diolchgar am bob Rhoddion ychwanegawl—Hefyd y mae rhieni y ferch ieuanc yn dymuno i hob pwythion ag sydd yn ddyledus iddynt hwy i gael eu dychwelyd i'r ferch ieuanc ar y diwrnod hwnnw, a hwy a roddant eu diolchgarwch gwresocaf i bob un a ddanghoso unrhyw garedigrwydd ychwanegawl iddi."

Aent i'r eglwys ar gefnau eu ceffylau, a chymerai'r ferch ieuanc a'i chyfeillion arnynt geisio dianc rhag y gŵr ieuanc, a diau i galon aml eneth guro'n gyflym rhag ofn iddynt lwyddo.

Treulient eu mis mêl drannoeth a'r dyddiau canlynol trwy edrych trwy'r pwythion a dderbyniasent, a'u gosod yn eu lleoedd priod yn eu cartref newydd. Ond yr oedd yr arferion uchod wedi diflannu cyn cof i mi, a'r genethod wedi dyfod yn ddigon hy i ddangos eu bod mor awyddus i briodi â'r bechgyn, ac nid cymeryd arnynt ddianc.