Tudalen:Cwm Eithin.djvu/183

Gwirwyd y dudalen hon

Yn ei lyfr Gleanings from a Printer's File (1928), y mae Syr John Ballinger yn rhoddi hanes am y dull yma yn gyflawn fel yr oedd yn cael ei arfer yn siroedd canolbarth Cymru, yn enwedig yn Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Hyd y gwyddom nid oes enghraifft ar gael, mewn llawysgrif nac yn argraffedig, o'r bidding letter yng Ngogledd Cymru.

DAWNSIO HAF

Ceir darnodiad o'r ddefod hynafol dawnsio haf yn Y Gwyl- iedydd, 1823, tudal. 306, gan un a'i geilw ei hun "Callestrwr," fel yr arferid hi yn Callestr (Fflint, mae'n debyg). Ym mis Ebrill arferai o ddwsin i ugain o bobl ieuainc ymuno i baratoi ar gyfer y ddawns. Gwisgai'r dawnswyr eu crysau yn uchaf wedi eu haddurno ag ysnodennau a blodau. Cariai'r arweinydd fforch bren ar lun y llythyren Y. Gwniid lliain o'r naill fraich i'r llall, ac addurnid y fforch ag amryw lestri arian, tebotiau, llwyau, cigweiniau, etc. Byddai gyda hwy grythor yn ei ddillad ei hun, "cadi" mewn gwisg merch, ac ynfytyn mewn gwisg ryfedd â phlu yn ei ben. Ar y dydd cyntaf o Fai, cychwynnent i'w taith o gylch y ffermydd. Pan gyrhaeddent at dý, chwaraeai y crythor ei gainc a dawnsiai'r dawnswyr gan chwyfio cadachau gwynion yn rheolaidd ac ar unwaith. Dechreuai'r ynfytyn ar ei gampau, megis cymeryd arno ddwyn y peth yma a'r peth arall, a gafael yn y plant a'r genethod ieuainc. Yna âi'r "cadi" i'r tŷ ac o gwmpas, ag ysgub mewn un llaw, a math o letwad gasglu yn y llaw arall. Ar ol derbyn rhoddion y teulu aent i le arall, a byddent wrthi am ddyddiau weithiau.

Ceisia'r ysgrifennydd olrhain cychwyn y ddefod yn ôl i'r cyfnod cyn Cristionogaeth, ac iddi gael ei sefydlu er cof am dduwies yn cyfateb i'r dduwies Rufeinig Flora.

Gwelais hanes y dawnsio haf yng Ngwyddelwern. Dywedai'r hanesydd fod nifer o ieuenctid o Ddyffryn Clwyd yn myned o gylch y wlad i ddawnsio haf, ac iddynt ddyfod i Wyddelwern. Credai ef mai yr un ddefod y cyfeirir ati yn Llyfr y Barnwyr, ii. 21. Pan oedd meibion Benjamin yn fyr o wragedd cynghorwyd hwy i fyned ac ymguddio yn y gwinllannoedd, a gwylio'r merched yn dyfod allan i ddawnsio, ac iddynt gipio bob un ei wraig. Deallaf fod y ddefod mewn arferiad lai na hanner can mlynedd yn ôl mewn rhannau o'r wlad. Dywedodd gwraig, nad yw ond