Tudalen:Cwm Eithin.djvu/184

Gwirwyd y dudalen hon

trigain oed, wrthyf yn ddiweddar iddi gymeryd rhan yn y ddefod droeon pan oedd yn eneth ieuanc o gylch Colwyn a'r parthau hynny.

HEL CALENNIG

Bydd pawb ohonom yn gweiddi "Fy Nghalennig i," ond heb gael dim ond dymuniad am flwyddyn newydd dda yn ol, ac y mae'n debyg nad oes yma nemor ohonom a fu o gylch y wlad yn hel calennig. Yn yr hen amser arferai'r tlodion a'r plant fyned o gwmpas y wlad i hel calennig ar ddydd Calan, a gofalai'r amaethwyr am fara a chaws ar eu cyfer. Cenid un neu ragor o'r penillion a ganlyn:—

Calenig wyf yn 'mofyn
Ddydd Calan ddechreu'r flwyddyn,
A bendith fyth fo ar eich tŷ
Os tycia im' gael tocyn.

Calenig i mi, Calenig i'r ffon,
Calenig i fwyta'r noswaith hon :
Calenig i'm tad am glytio'm 'sgidiau,
Calenig i mam am drwsio'm 'sana.

Rhowch Galenig yn galonog
I ddyn gwan sydd heb un geiniog,
Gymaint roddwch rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw 'chydig.

'Nghalenig i'n gyfan ar fore dydd Calan,
Blwyddyn Newydd Dda i chwi.

Os gwrthodid hwy:

Blwyddyn Newydd Ddrwg,
Llond y tŷ o fwg.[1]


HEL BLAWD Y GLOCH. CASGLU ŶD Y GLOCH

Defod hynafol iawn, mae'n ddiau, oedd hel blawd y gloch. Methais â dyfod o hyd i neb yn Edeirnion yn cofio'r clochydd yn dyfod o gwmpas i hel blawd y gloch, ond bu'r arferiad

  1. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaetbol Blaenau Ffestiniog, 1898.