Tudalen:Cwm Eithin.djvu/185

Gwirwyd y dudalen hon

hwn ym mhob rhan o Gymru. Dywaid William Davies ei bod hi'n arfer ym Meirion i'r clochydd fyned o gwmpas y ffermydd y cynhaeaf ŷd i hel ysgub y gloch, ac yr arferai pob amaethwr roddi ysgub neu ddwy iddo. Dro arall âi â'i gwd ar ei gefn pan ddeallai fod y ffermwyr wedi dechrau dyrnu, a dyma oedd ei dâl am ganu cnul ar ddydd angladd.

Cyfeiria "Llyfrbryf" at yr un ddefod yn ei lyfryn Y Ddau Efell. Geilw ei arwr "Nicodemus." Aeth dau hogyn at Nicodemus un tro i'r clochdy, pan oedd yn canu'r gloch, i ofyn am eglurhad iddo ar ei waith, pryd y bu ymddiddan tebyg i'r hyn a ganlyn :

"I ba beth y mae passing bell yn dda, Nico?" ebe un o'r bechgyn.

Synnodd Nico at y fath anwybodaeth, ac atebodd, "Da i bob peth. Dyna un peth y mae yn dda: I hysbysu'r plwyfolion fod hwn neu hon wedi marw, a bod yr enaid wedi pasio i'r purdan. . . . Hen arferiad dda er dyddiau yr Apostolion a chyn hynny am a wn i." Ac aeth ymlaen, un, dau, tri i wyth, ac yna stopio am funud a dechrau drachefn.

Pam wyth mwy na chwech neu saith, Nico?" ebe un o'r hogiau drachefn. Dyma'r rheol," ebe yntau, sylwch chwi rŵan pan fo gŵr priod wedi marw, 9 tinc; gwraig briod, 8 tinc ; dyn di-briod, 7 tinc; merch ddi-briod, 6 tinc; llanc tan ugain oed, 5 tinc; lodes, 4 tinc; baban gwrryw, 3 tinc; geneth, 2 dinc."[1]

Felly galwad ar y plwyfolion i weddïo dros enaid yr ymadawedig oedd canu'r gloch, ac ychydig o ŷd neu flawd oedd tâl y clochydd.

Nid oes gennyf gof i mi glywed y gloch yn cael ei chanu yn ol rhif. Cofiaf wraig y clochydd—Beti'r gof, fel y gelwid hi—yn myned o gwmpas i hel blawd y gloch. Bûm yn llygad-dyst o'm mam o'i phrinder yn rhoddi llond bowlen o flawd ceirch yn ei ffetan.

HEL BWYD CENNAD Y MEIRW

Yr oedd hon yn hen ddefod. Dywaid "Llew Tegid " mai hel bwyd ddydd gŵyl y meirw a wneid yn Llanuwchllyn. Dydd

  1. Allan o'r Traethodydd, Treffynnon, 1875.