HEL WYAU'R PASG
Arferid hel wyau'r Pasg yn yr hen amser. Fel y canlyn y dywaid William Davies yn Nghyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog, 1898:
"Rhyw wythnos o flaen y Pasg, arferai y clochydd fyned o amgylch â basged ar ei fraich i hel "wyau y Pasg," a byddai y plwyfolion yn ol eu gallu yn cyfranu o un hyd haner dwsin. Byddai ei dŷ yr adeg hon yn un o'r rhai â mwyaf o wyau ynddo o un tŷ yn y wlad. Dywedir mai rhan o dâl y clochydd ydoedd yr wyau hyn am ofalu am y gladdfa."
COCYN SAETHU
Cynhelid yr hyn a elwid cocyn saethu, sef saethu at nod am y gorau, i gynorthwyo'r rhai wedi cyfarfod â rhyw anffawd, megis damweiniau, a cholledion trwy i anifail farw. Nid wyf yn cofio gweled yr un, ond cofiaf rai yn myned o gwmpas i amcan felly lawer tro. Gelwid hynny yn "hel briff."
HEL BWYD
Yr oedd yn arferiad hefyd i lawer fyned o gwmpas y wlad i hel eu bwyd. Fe gofiaf rai o'r gwragedd tlotaf neu efallai rai oedd wedi arfer yn eu hieuenctid, yn dyfod o gwmpas yn ddwy a thair i hel eu bwyd. Clywais John Hughes—a fagwyd yng nghymdogaeth Betws y Coed, hynafgwr dros ei bedwar ugain oed, ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Llundain, ac a fu â llaw yng nghychwyn eglwysi Walham Green a Clapham Junction, ond sydd erbyn hyn wedi croesi'r terfyn—yn dywedyd y cofiai ei fam yn adrodd ei hanes, iddi hi yn 1817, pan oedd yn eneth bur ieuanc, a nifer eraill fyned o Fetws y Coed i Sir Fôn i gardota blawd. Dywedai eu bod wedi cael gwell cynhaeaf ym Môn y flwyddyn honno nag yng nghymoedd Arfon a Meirion, ac y byddai'r merched, ar ôl dyddiau o hel eu bwyd a hel blawd, yn dychwelyd â llond cwd o flawd ceirch, wedi ei gael gan ffermwyr neu yn hytrach fferm-wragedd caredig Môn. Gelwid Môn yn "Granary Cymru." Tybed mai dyna'r rheswm iddi gael ei galw yn Fam Cymru, am y byddai tamaid i'w gael yno pan fyddai'r cynhaeaf wedi methu yn y rhannau mynyddig?