PENNOD XIV
HEN ARFERION BENDITHIOL I'R TLAWD
YN yr hen amser yr oedd y tlawd a'r gweddol dda allan yn llawer nes at ei gilydd nag ydynt yn awr. Fe ofelid am y tlawd mewn llawer dull a modd. Clywais fy mam yn cwyno mai un o'r pethau gwaethaf a ddaeth i Gymru o Loegr oedd "Mistar" a Mistres." Yn yr hen amser "F'ewyrth" a "Modryb" yr arferai'r gwas a'r forwyn alw eu meistr a'u meistres. Teimlai F'ewyrth a Modryb gyfrifoldeb am eu teulu.
GWLANA
Un o'r defodau mwyaf bendithiol i'r tlodion oedd y ddefod neu'r arferiad o wlana. Mae pob lle i gredu ei bod yn hen iawn—pa mor hen, amhosibl gwybod. Cawn sôn yn y Beibl am y lloffa ar ôl y medelwyr, a gorchmynnir i'r ffermwyr beidio â medi cornelau eu meysydd, peidio â chrafangu am y cwbl iddynt eu hunain. "Cofia'r tlawd a'r amddifad." Yr oedd lloffa yn beth pur gyffredin yng Nghymru gan mlynedd yn ôl. Dywaid y Parch. D. G. Williams, Ferndale, yn ei draethawd buddugol yn Eisteddfod Llanelli, 1895, Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, fel y canlyn am loffa :—
Arferai amaethwyr y sir adael i'r tlawd fyned i fewn i gae ŷd i loffa mor gynted ag y codid yr ŷd i'w ddâs. Newydd farw mae'r arferiad hon. Cofia dynion cymharol ieuainc hi mewn grym. Gwnai y tlawd gryn dipyn ohoni."
Nid ydwyf fi yn ei chofio mewn grym yn yr ystyr uchod. Arferem ni y plant lleiaf loffa; dyna a fyddai ein gwaith yn ystod y cynhaeaf, ond yn ein caeau ein hunain yn unig y gwnaem hynny. Yr oedd pob merch deilwng o'r enw yng Nghymru yn medru gweu, a dyna un o brif foddion cynhaliaeth llawer teulu tlawd. Gellid prynu gwlân am o chwech i wyth geiniog y pwys neu lai, ond yr oedd y swm hwnnw ymhell uwchlaw cyrraedd llawer yr adeg honno. Nid oedd cyflog y tad ond prin ddigon i gael bwyd i'r fam a'r plant. A dibynnai ar y fam i wneud llawer cynllun i gael ychydig o geiniogau i gael dillad, clocs ac esgidiau (os