gellid eu cyrraedd) i'r teulu. Ac un o brif foddion cynhaliaeth oedd gwaith y fam yn "gweu sanau gwerthu." Dibynnai cynhaliaeth y teulu lawer ar gyflymder bysedd y fam yn trin ei gweill. Efallai y dylwn egluro y term sanau gwerthu oedd yn hollol ddealladwy i bawb pan oeddwn i yn hogyn. Isel iawn oedd pris sanau gwerthu: deg ceiniog neu un geiniog ar ddeg y pâr. Felly ni ellid fforddio rhoddi llawer o edau nac o lafur ynddynt. Edau ungorn a ddefnyddid fel rheol, a gweill breision, a'u gweu yn llac. Ni fuasent yn para wythnos i Robert y tad a'r hogiau, gyda'u hesgidiau tewion a'u clocs, na fyddai eu sodlau wedi gwisgo a'u bodiau trwyddynt. I wneud sanau cartre, defnyddid edau ddwygorn neu dair cainc, a gweill meinion fel y gellid eu gweu'n glos. Cofiaf y byddai Betsen y Garwyd yn cael hanner coron am bâr o sanau cartre pan nad oedd pris sanau gwerthu yn fwy na swllt a cheiniog. Ond yr oedd sanau gwerthu yn ddifai i hen siopwyr a rhyw hen daclau felly, oedd yn cael eu bwyd heb weithio amdano!
Ond pa fodd i gael gwlân heb arian i'w brynu? Perthynai i'r tlawd ei ran. Ni feddyliai'r hen bobl am ladd eidion, mochyn neu ddafad heb anfon rhyw damaid bach i rai o dlodion y cylch. A'r un fath gyda chynhaeaf y cneifio, yr oedd y tlawd i gael ei ran. Nid oedd gwraig ffarmwr deilwng o'r enw, a chanddi ddiadell gref o ddefaid, na ofalai am roddi dau neu dri chnu o wlân o'r neilltu yn barod erbyn y deuai'r gwlanwyr heibio. Gwir mai'r gwlân garw a geid gan ambell wraig grintachlyd, ond ni wrthodai dusw o wlân i'r rhai a alwai.
Gyda bod y cneifio drosodd, cychwynnai gwragedd y gweithwyr ar eu taith, bob yn ddwy neu dair. Galwent ym mhob amaethdy lle'r oedd defaid. Byddai'r arweinydd yn wraig mewn oed, yn deall tymheredd y ffarmwraig. Os byddai gwraig ieuanc yn y fintai, cyflwynai'r arweinydd hi fel gwraig hwn a hwn, ac yn perthyn i'r rhain a'r rhain. Câi'r hen gydnabod dusw pur dda, ond tusw bychan a gâi'r newyddian. Cymerai ddyddiau lawer i gerdded y gymdogaeth; ac erbyn gorffen byddai ganddynt swm pur dda o wlân. Ni synnwn nad fel hyn y treuliodd llawer gwraig ieuanc ei mis mêl. Priodi ddydd Sadwrn, mynd i'r capel y Sul ym mraich ei phriod, ac i'w gartre fo i swper nos Sul. Yna ar ôl i'w phriod fyned at ei waith bore Llun, cychwyn gyda'i mam, ei mam yng nghyfraith, neu ei modryb i wlana. Ffordd ardderchog, onid e? Teithio trwy ei holl gwmwd a gweled llawer lle na welodd o'r blaen, yn awyr