Tudalen:Cwm Eithin.djvu/193

Gwirwyd y dudalen hon

ei fwyd a'i ddillad heb fyned i gardota amdano. Ac y mae'r iach yn gyfrifol i ofalu am yr hen a'r methiantus.

Y DDAFAD FARUS

Ffordd arall i gael gwlân yn rhad oedd hel y tuswau gwlân a geid wedi bachu yng ngrug y mynydd ac ar hyd y gwrychoedd. Un o gyfeillion pennaf y tlawd oedd y ddafad farus. Fe wyddai hi sut i wneud drwg fel y delai daioni, a haedda gofiant.

Erbyn diwrnod cneifio, ni fyddai nemor ddim gwlân ar gefn y ddafad farus, a phe buasai pob ddafad mor garpiog ei gwisg â hi, ni fuasai'r ŵyl gneifio yn werth ei chynnal. Yn Ebrill a dechrau Mai, wrth weled y cae hadau a'r egin am y clawdd â hi; byddai ei chwant amdanynt wedi mynd yn feistr corn arni. Âi dros bob clawdd a thrwy bob gwrych. Er mai lladrones oedd, hi oedd un o gyfeillion pennaf y tlodion yn yr hen amser gynt. Byddai ei gwlân fel rheol yn myned i gadw traed a choesau plant y gweithiwr tlawd rhag rhewi. Dywaid llawer mai creadur dwl, diniwed, a difeddwl yw'r ddafad; ond nid yw hynny'n wir am y ddafad farus. Ymddengys fod ganddi hi lawer mwy o synnwyr na'r gweddill o'i rhyw. Ni wn pa un ai am ei bod hi'n gallach na'r lleill y mae hi'n lladrones, ai ynteu datblygu mwy o synnwyr na'r lleill wrth ladrata y mae hi. Hynny yw, a fuasai'r defaid eraill cyn galled â hi pe baent yn lladron ? Ac a fuasai hi cyn wirioned â hwy pe buasai'n ddafad onest?

A fuoch chwi yn gwylio'r ddafad farus yn y cae egin? Gŵyr yn iawn mai dyma'r pechod mwyaf all dafad ei gyflawni, a bod ei meistr yn barod i'w lladd am y pechod hwn; ond wrth hen arfer, mae'r demtasiwn wedi ei meistroli'n hollol. Pe gwyddai. y torrai ei gwddf yn yr ymdrech i fyned trwy'r gwrych nid oes ganddi nerth i beidio. Edrychwch arni yn y cae egin. hi'n glustiau i gyd; clyw bob smic; mae ei chydwybod yn danllwyth o'i mewn, ac ar yr arwydd lleiaf o ddynesiad rhai o deulu'r ffarm neu Tango'r ci, bydd trwy'r gwrych yn ei hôl fel ergyd o wn.

Dowch gyda mi am dro i gaeau'r Fron Lwyd ddiwedd Ebrill. Mae Mae hi'n braf iawn. Fe awn ni i'r caeau porfa, ac fe eisteddwn i lawr am ychydig. Yn union o'n blaen mae cae o egin ceirch yn edrych yn las a hardd. Wirionedd i, dacw Megan a'i hoen bach yng nghanol y cae egin. Mae hi'n edrych yn gynhyrfus iawn, a'i chlustiau i fyny yn gwrando, ac yn sbïo o'i chwmpas. Dacw