Tudalen:Cwm Eithin.djvu/194

Gwirwyd y dudalen hon

hi'n cymryd y goes a thrwy'r gwrych i'r cae porfa. Beth sydd yn bod? Ni chlywais ac ni welais i ddim byd. O, wir! mi wela Morgan, gŵr y Fron Lwyd, a Thango yn cychwyn oddi wrth y tŷ sydd dri lled cae oddi yma i fyned am dro i olwg y caeau. Rhaid bod Tango wedi cyfarth o lawenydd wrth gychwyn. Ni chlywais i ddim oddi wrtho, ond rhaid fod Megan wedi ei glywed. Mae hi'n clywed fel cath. Gwyliwch hi'n awr. Ar ôl dyfod trwy'r gwrych fe bawr ychydig dameidiau, yna cerdda oddi wrth y gwrych wyth lath neu ddeg yn frysiog. Pawr drachefn ychydig dameidiau, ac felly o hyd nes cyrhaedda'r ochr bellaf oddi wrth yr egin i'r cae, os na bydd wedi myned drwodd i'r cae nesaf erbyn y daw Morgan a Thango. Dacw Morgan a Thango wedi cyrraedd i'r cae. Mae'r defaid gonest yn pori yn ymyl, a hyd yn oed ar ochr gwrych y cae egin, ond dim perygl i chwi weled Megan, y ddafad farus, yn y fan honno. Mae hi mor awyddus i ddangos ei gonestrwydd fel na fyn ei gadael ei hun mewn safle i gael ei hameu.

BRENHINES Y BWTHYN

Ceisiaf roddi darlun o deulu'r bwthyn ddechrau'r ganrif ddiweddaf. Mae'r gŵr a'r wraig o dan ddeugain oed, Robert a Mari. Mae ganddynt saith o blant. Mae Robert yn gweithio yn y Cwm, yn cael chwe cheiniog yn y dydd—tri swllt yn yr wythnos —o gyflog a'i fwyd. Mae ganddynt gornel o ardd i blannu ychydig o datws, a chânt blannu rhes neu ddwy yn y Cwm. Erys Robert adref am ddeuddydd neu dri ym Mai neu Fehefin i dorri mawn, a chaiff fenthyg gwedd y Cwm i'w cario adref. Ond mae'n rhaid i Mari a'r plant eu codi a'u trefnu i sychu. Mae Robert, y bachgen hynaf, yn bymtheg oed, yn hogyn ym Mryn Mawnog; yn cael pum swllt ar hugain yn y flwyddyn o gyflog; Mari yn ddeuddeg oed, yn hogen yn y Foty, yn cael ei bwyd, a rhywbeth a wêl Citi Morris, y wraig, yn dda ei roddi iddi; Dei yn naw oed, yn cadw gwartheg yn Rhyd yr Ewig am ei fwyd; Siân yn saith; Wil yn bump; Jac yn dri, a Mag fach yn naw mis.

Tri swllt yn yr wythnos yw'r holl arian a ddaw i mewn, ac eisiau bwyd a dillad i'r teulu. Mae ganddi datws, a chaiff ddigon o laeth enwyn yn y ffermydd o gwmpas; ac os gall fforddio cael a chadw mochyn, mae'n rhaid ei werthu er mwyn cael yr arian; ni all ei gadw at wasanaeth y teulu, ac y mae eisiau esgidiau a dillad.