Tudalen:Cwm Eithin.djvu/195

Gwirwyd y dudalen hon

Dacw hi, Frenhines y Bwthyn, yn cychwyn ar ei thaith i'r Cwm i nôl hanner pwys o fenyn a chaniaid o laeth enwyn. Gedy Jac a Wil o dan ofal Siân, sydd yn saith oed; lapia'r babi mewn siôl, dim ond ei ben allan; gesyd ef ar ei chefn; rhydd un gornel i'r siôl dros ei hysgwydd dde, a'r gornel arall o dan y gesail chwith, a chylyma hi o'r tu blaen, ei braich trwy ddolen y can, pellen o edafedd yn crogi ar fach wrth linyn ei ffedog, a'i dwylo yn gweu ei hosan, ond yn codi pob tusw o wlân a wêl ar hyd y Ac ar ôl cyrraedd y Cwm feallai y caiff fara a chaws ei hun, a chwpanaid o lefrith i'r babi. Lleinw gwraig y ffarm ei chan llaeth enwyn, a rhydd yr hanner pwys menyn yn y llaeth, ac os bydd Robert yn ei llyfrau, rhydd brinten fach dros ben. Cyfeiria Mari ei chamre yn ôl yr un fath, ond fod y can llaeth ar ei phen yn lle ar ei braich, y gweill yn myned cyn gyflymed â gwennol gwehydd, a'r baban yn mwynhau'r daith lawn cystal â babanod y dyddiau hyn a deithia yn eu cerbyd pedair olwyn. ffordd.

Yn ei disgwyl yn eiddgar yn ôl, yn chware wrth penwar, byddai Siân, Wil a Jac; a'r funud y gwelent hi'n dyfod, torrent allan i ganu:—

"Dacw mam yn dyfod ar ben y gamfa wen,
A rhywbeth yn ei ffedog a phiser ar ei phen."

Rhydd Daniel Owen, yn ei Gofiant, ddarlun o'i fam sydd yn dangos ynni, gwydnwch, medr a phenderfyniad mamau Cymru. Ac meddai "Iorwerth Glan Aled":

"Mae merched Cymru'n well,
Fel gwragedd, na phob rhai
A geir o wledydd pell,—
Ceir gweled hyn trwy'n tai;
Y maent yn iach a llon,
A boddlon iawn eu gwedd;
Byth yn parhau
I ganu'n glau,
Wrth nyddu a gwau mewn hedd."

Yr oedd gweu 'sanau felly yn rhan bwysig iawn o waith y merched, ac yn aml byddai'r dynion yn gweu hefyd. Deuai'r saneuwyr, sef y prynwyr 'sanau, i bob ffair a marchnad, ac aent â hwy i'r lleoedd poblog i'w gwerthu. Gyda llaw, dyna oedd William Llwyd, Pitt Street, a gychwynnodd y Methodistiaid yn