Tudalen:Cwm Eithin.djvu/196

Gwirwyd y dudalen hon

Lerpwl, yn ei wneud. Nid wyf yn sicr pa bris a geid am bâr o'sanau, ond cofiaf fy nain a'm mam yn gwerthu 'sanau dynion am un geiniog ar ddeg a swllt y pâr.

Bob tro y darllenaf "Gân y Crys" bydd y dagrau yn llenwi fy llygaid, a byddaf yn diolch na fu raid i'n mamau tlodion ni fyw yn nhrefi mawr Lloegr. Cawsant yr awyr las yn do uwch eu pennau, a'r gwelltglas yn gwrlid o dan eu traed, ac anadlu awyr iach y mynydd; ac er tloted oeddynt ni fu raid iddynt orwedd ar wely gwellt. Cawsant wely manus esmwyth i gysgu arno. Byddaf yn diolch hefyd mai gweu oedd eu diwydiant ac nid pwytho. Ni theimlasant "rym brwdaniaeth cur." Nid oedd raid iddynt eistedd yn eu cwman mewn congl dywyll, gallent weu wrth rodio'r meysydd, "a chael 'arogl chweg y blodau tlysaf gaed." Gallai fy nain a'm mam weu fel y gwynt, a darllen eu Beibl ar y ford bach gron wrth eu hochr a thorri allan i ganu wrth ddarllen, a thynnu yn rhaffau'r hen addewidion.

Diau fod llawer erbyn hyn wedi tyfu i fyny na, welsant erioed Gân y Crys." Ni wn fawr amdani yn y gwreiddiol, ond mae'n anodd gennyf gredu bod y gwreiddiol yn fwy byw na'r cyf— ieithiad. Rhoddaf hi yma:—

CAN Y CRYS

(Cyfieithiad o waith Thomas Hood, gan " Iorwerth Glan Aled").[1]

A bysedd eiddil, blin,
Ac emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewn carpiog wisg,
Gan drin ei nodwydd ddur;
Pwyth—Pwyth—Pwyth,
A ddodai gyda brys,
A chyda llais dan drymaidd lwyth
Hi ganai "Gân y Crys."

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes toro gwawr y nen;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes t'wyno'r ser uwch ben;

  1. Gwaith Barddonol Iorwerth Glan Aled (Edward Roberts), Lerpwl, 1890.