Tudalen:Cwm Eithin.djvu/199

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XV

CWM ANNIBYNIA.
MUDO A DYDDIAU YSGOL

YNG Nghwm Annibynia y gwelais oleuni dydd gyntaf—hynny yw, os goleuni dydd ydoedd. Dywedodd un hen frawd dreng, a gredai mai'r ffordd orau i yrru mulod yw eu curo yn eu clustiau, mai goleuni lleuad a welais gyntaf, ac nad oedd honno'n llawn. Ni fu gennyf fawr o feddwl ohono ef ar ôl hynny; byddaf yn ei gicio yn ei grimogau bob cyfle a gaf. Tybiaf glywed y darllenydd yn dywedyd, "Fe allai nad oedd bell o'i le; paham y cicio?" Ie, ie; ond y gwir sydd yn brifo clustiau dyn yn ddychrynllyd. Ni waeth gan bobl mo'r llawer pa faint o gelwydd a ddywedwch chwi amdanynt, ond i chwi beidio â dywedyd y gwir. Yr oedd Robert Thomas, y Llidiardau, yn ddigon o athronydd i ddeall hynny. Ni ofnai ef frifo Dr. Edwards y Bala wrth ddywedyd y gwir, er cymaint gŵr oedd ef.

Ond digwyddodd un tro, pan oedd Robert Thomas yn byw yn Ffestiniog, i Dr. Edwards ac yntau groesi ei gilydd yr un Sul, Robert Thomas yn pregethu yn y Bala, a Dr. Edwards yn Ffestiniog. Pan gyfarfuant ar ôl hynny, ebe Dr. Edwards:—"Sut yr ydych chwi, Robert Thomas? Mae'n dda gennyf eich gweled chwi. Yr oeddwn yn falch glywed y cyfeillion yn dywedyd mor dda yr oeddych yn pregethu y Sul y buoch acw. Dywedent eich bod yn pregethu yn afaelgar a grymus, fel un o hen gewri'r dyddiau gynt."

"Ho! Ho!" ebe Robert Thomas. "Fe glywis inne y bobol acw yn deud ych hanes chithe'n pregethu, ac yr oedden nhw yn deud eich bod chi'n pregethu'n ddigon sâl. 'Newch chi ddim digio wrtha i am ddeud y gwir, na newch, Dr. Edwards? Dydw i ddim yn digio wrthoch chi am ddeud celwydd."

Un o'r mân gymoedd a gychwyn allan o Gwm Eithin yw Cwm Annibynia, a dderfydd yn bigfain mewn mynydd isel. Gelwir ef Cwm Annibynia am mai'r Annibynwyr piau fo. Ni feiddiodd yr un enwad arall erioed roddi ei draed i lawr yno. Pan gofiaf ef gyntaf yr oedd ynddo ddwy eglwys Annibynnol, ac felly y mae eto. Dywedir y byddai'r hen wragedd a arferai