hel eu bwyd yn ei alw ef yn Gwm Dwydorth, oherwydd wrth fyned i fyny un ochr, a dyfod yn ôl yr ochr arall, a galw ym mhob tyddyn, ni fyddai ganddynt yn y cwd blawd ond digon i'wneuthur dwy dorth geirch.
Yng ngenau'r Cwm yr oeddwn i yn byw, ac yr oedd yno ychydig o Fethodistiaid yn gymysg â'r Annibynwyr, ac yn myned i un o gapeli'r Methodistiaid yng ngwaelod Cwm Eithin; ond i hen gapel bach S———[1] troediwn i dros bont Rhyd y Clwyde, pont garreg (nid cerrig, cofiwch) heb ddim canllaw iddi. Un tro, wrth ddychwelyd o'r oedfa, nos Sul dywyll, rhedais dros y bont yn lle aros am oleuni'r gannwyll lantarn, a syrthiais dros y bont i'r afon. Tynnwyd fi allan yn fuan, a daeth y Parch. Humphrey Ellis, y pregethwr oedd yn y daith, ac a gydgerddai â ni ymlaen, a thynnodd ei law ar hyd fy mhen amryw droeon, a pheidiais innau a chrïo.
Llawr pridd oedd i'r capel yr adeg honno. Er hynny yr oedd yr adnod, "Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roddi aberth ffyliaid," wedi ei cherfio mewn llechfaen wrth ben y drws. Bûm yn ceisio dyfalu lawer gwaith ar ôl hynny beth a barodd i'r hen dadau ei rhoddi yno. Oherwydd nid hawdd gwneuthur llawer o sŵn ar lawr pridd. Ond y mae dylanwad yr adnod wedi aros arnaf ar hyd fy oes. Ni fûm erioed yn euog o wneuthur sŵn wrth fyned i dŷ Dduw. Hoffwn gael cyfle unwaith eto i fyned i dynnu fy het i'r hen gapel a'i garreg gysegredig. Diau pe buasai Rhagluniaeth wedi trefnu imi aros yng Nghwm Annibynia, mai Annibynnwr selog fuaswn heddiw, a Hen Gyfansoddwr, y mae'n debyg, oherwydd y diweddar Barch. Michael D. Jones oedd gweinidog yr eglwys fach a gyfarfyddai yn y capel â'r llawr pridd. Teimlaf yn falch i mi gael dywedyd fy adnod wrth Michael Jones. Coffa da amdano. Meddai ddynoliaeth braf, ac annibyniaeth ag asgwrn cefn iddi. Ond collais fy annibyniaeth pan oeddwn rhwng chwech a saith oed, a phwy a ŵyr y golled?
Y mae sŵn gorfoledd Diwygiad '59 yn fy nghlustiau yn awr—y Cyfarfod Gweddi ganol nos ar y groesffordd wrth lidiart y pentre, yrahlith trigolion y godre, ar ôl dyfod allan o'r capel cyn gwahanu. Yr oedd y nefoedd yn ymyl. Nid oedd eisiau dim ond dringo i ben un o'r mynyddoedd a gylchynai'r cwm, a thorri twll yn y llofft las uwchben na fuasem ynddi. Clywem yr angylion yn canu'n fynych pan agorid y drws i rywun fyned i
- ↑ Capel Soar