Tudalen:Cwm Eithin.djvu/201

Gwirwyd y dudalen hon

mewn i'r Capel Mawr uwchben. Yr oedd un hogyn fel Seth Bartle, druan, dipyn diniweitiach na'r gweddill. Daeth yn ystorm o fellt a tharanau ofnadwy un diwrnod. Rhedodd ei frodyr a'i chwiorydd i gyd i'r tŷ am loches, ond arhosodd y bachgen diniwed allan yn hamddenol. Aeth ei fam i chwilio amdano. "Oes gen ti ddim ofn, 'y machgen i?" ebe'r fam. "Nac oes," ebe yntau. "Beth wyt yn ei feddwl yw'r sŵn mawr yna, 'ngwas i?" ebe hi drachefn. "Dim ond Iesu Grist yn rhedeg yn Ei glocs ar hyd y llofft fawr uwchben," ebe yntau. Pa le y mae'r athronydd a fedr ateb yn well heddiw? Beth yw taranau? Y Creawdwr mawr yn cerdded yn drwm trwy natur?

Ond daeth rhyw bregethwr ysgolheigaidd ar ei dro, a dywedodd nad oedd y llofft las a welem uwchben yn ddim ond y terfyngylch, neu'r lle pellaf a allem ni ei weled er ei bod yn edrych fel pe bai yn taro ym mhen y mynydd, ond pe dringem yno, yr edrychai cyn belled oddi yno drachefn ag o waelod y Cwm. Dringais innau i ben y Garth, ac felly'r oedd. Aeth y Nefoedd yn bell, bell. O na chawn fyned yn blentyn yn f'ôl a byw yn ymyl y Nefoedd.

Cadw Cyfarfod Gweddi oedd chware'r plant yr adeg honno. Cofiaf yn dda un o'r cyfarfodydd hynny. Tri o fechgyn bach yr ardal wedi eu hel at ei gilydd i warchod tra'r elai'r rhieni i'r capel nos Sul, Urias y ffactri, yn Fethodus, Bob, fy nghefnder, a minnau, yn Annibynwyr. Ar ôl i bawb gychwyn aethom ninnau i gadw cyfarfod gweddi undebol, Bob yn dechrau. Gweddiwr pur faith oedd ef yr adeg honno. Yr oeddym i gyd ar ein gliniau ac yntau yn hir weddïo, a minnau wedi blino'n lân ar fy sefyllfa. Gwyddwn yn dda fod Urias yn oglais o'i gorun i'w sawdl; ac er cael rhywbeth i'm difyrru fy hun, dechreuais arno. Gwylltiodd yntau yn gaclwm, a gwaeddodd allan: Dywed 'Amen,' Robin, gael i mi hitio Huwcyn." Chware teg iddo, nid oedd am fy nharo pan oedd brawd ar ei liniau yn gweddio. Ac o drugaredd i'm hesgyrn, fe ddaliodd Robin ati am dipyn wedyn. Ciliais innau i'r gongl bellaf, ac erbyn i'r "Amen " ddyfod yr oedd cynddaredd Urias wedi cilio. Da gennyf ei fod yn parhau yn dirf ac yn byw yn y Bala.

Gwerthwyd nifer o ffermydd Cwm Annibynia. Collodd llawer eu cartrefi, a thorrodd hynny galon aml un o'r hen drigolion—fy nhaid yn eu mysg. Y dydd cyntaf o Fai, 186—,trodd gweddi Cwm Annibynia allan yn lluoedd i symud ein dodrefn a'n celfi ni i Gwm Eithin, pellter o ryw bedair neu bum