Tudalen:Cwm Eithin.djvu/202

Gwirwyd y dudalen hon

milltir. Edrychai llawer o'r trigolion yn ddigalon iawn pan gychwynasom. A pha ryfedd? Oherwydd fy nhaid oedd bron yr unig ysgolhaig yn y Cwm, wedi bod am flynyddoedd yn yr ysgol yn Ellesmere, ac wedi ei ddwyn i fyny yn fesurydd tir, yn Sais da, a chanddo lawysgrif fel copperplate. Ef oedd cyf- reithiwr y Cwm-yn gwneuthur ewyllys pawb yno, a llyfr y dreth i'r trethgasglydd, etc. Mae amryw o hen ewyllysiau, receipts am Dreth y Golau, a thoreth o bethau eraill yn ei law- ysgrif yn fy meddiant. Cyrchai llawer i'w wrando'n darllen Y Faner. Yr oedd yn fedrus iawn â'i ddwylo. Gallai wneuthur bron unrhyw beth, a gwnâi bopeth am ddim. A diau mai yn "Yr Hows" y buasai cyn diwedd ei oes, oni bai fod fy nain yn gofalu, pan werthid rhywbeth oddi ar y tyddyn, am gadw'r arian at y rhent.

Ond sôn am fudo yr oeddwn. Un o ddyddiau mwyaf f'oes. Ni wyddwn ddim am y cartref newydd ond trwy hanes. Cefais yrru'r gwartheg am ran o'r ffordd, a'm cario yn y drol ful y rhan arall. Treuliodd "Lion," y mul, dros ugain mlynedd o'i oes gyda ni, ac ef oedd un o'm hathrawon pennaf ym more f'oes. Llawer gwaith, pan fyddwn yn ei boenydio, neu pan fyddai wedi blino arnaf, y rhoddodd ei ben rhwng ei goesau, ac y taflodd fi nes y byddwn yn ysgrialu, a rhedeg i ffwrdd ychydig lathenni, yna'n troi i edrych a fyddwn yn fyw. Chware teg iddo, ni thorrodd asgwrn i mi erioed; ond dysgodd i mi rai o wersi pwysicaf fy mywyd. Gwn yn bur dda sut i yrru mulod, a buasai hynny lawn cymaint o werth â gradd mewn prifysgol i aml un.

Cawsom dyddyn bychan yng Nghwm Eithin, gan yr un meistr neu feistres tir ag oedd wedi gwerthu ein hen gartref. Ond tyddyn yn cael ei drin ar hyd breichiau ydoedd, a'r adeiladau wedi mynd yn wael iawn. Bu raid inni godi ysgubor, ystabal côr i'r gwartheg hesbion, ac amryw gytiau yr haf cyntaf ar ôl myned yno. A'r cwbl a gawsom gan y feistres tir at y gost oedd caniatad i fyned i goedwig y plas i dorri digon o goed at y gwaith. Gwerthwyd y tyddyn hwnnw drachefn ymhen deng mlynedd, a chafodd y feistres tir bris da am yr adeiladau yr oeddym ni, o'r prinder, wedi gorfod eu codi at ein gwasanaeth. Ond cawsom aros yno drachefn gan y meistr newydd am yr un rhent. Ymhen rhai blynyddoedd gwerthwyd y cartref hwn yr ail waith. Cafodd yr olaf o'r teulu rybudd i ymadael. Yr oedd yn wael ei iechyd ar y pryd. Ni allai oddef y syniad o golli'r cartref. Torrodd ei galon a chymerwyd ef i'r cartref fry rai misoedd cyn i'r rhybudd