Tudalen:Cwm Eithin.djvu/204

Gwirwyd y dudalen hon

i ymadael ddyfod i ben. Cefais innau'r gorchwyl prudd o wneuthur auction ar yr hen gelfi yn 1899, a throi fy nghefn ar yr hen gartref am byth, er y byddaf yn myned at yr hen dŷ, ac ar hyd yr hen lwybrau, a thrwy'r eithin i "Ben y Top," gael llond fy mrest o awyr iach, a chael un olwg arall ar y cylch mynyddoedd, bob tro yr af i Gwm Eithin. Hen gartref fy mebyd! Er mai tywyrch oedd dy drum, a gwellt dy do, a hwnnw mor isel nes i mi daro fy mhen gannoedd o weithiau yn dy dylathau wrth godi'n sydyn o'm gwely yn lle rowlio allan fel y dylaswn, ie, er hyn oll, cu iawn wyt gennyf fi.

Mae llawer yn synnu fod mwy yng ngafael y darfodedigaeth yng Nghymru fynyddig ac iach nag y sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, a beïir y tai a'r bwyd a llawer o bethau. Ond anghofir mai Celt ac nid Sais yw y Cymro. "Hard words will never break a bone," medd y Sais. "Gair garw a dyr galon," medd y Cymro. Y mae, neu yr oedd, ymlyniad y Cymro wrth ei gartref yn ddiarhebol. Buasai llawer llai o'r darfodedigaeth yng Nghymru pe buasai yno well deddfau tir a sicrwydd dalia laeth. Clywch sŵn calonnau toredig gŵr a gwraig Cilhaul Uchaf yn dygyfor yng ngeiriau " S.R." pan gawsant rybudd i ymadael â'u cartref gan y stiwart tordyn, di-enaid. Nid yw ond un o filoedd o rai tebyg iddo. Bydd fy ngwaed yn berwi a dagrau yn llenwi fy llygaid wrth ddarllen am greulonderau llawer stiwart ac ambell dirfeddiannydd at ein cyndadau.

Y rheswm fod tir ddaliadaeth mor ansicr yng Nghwm Eithin y pryd hynny oedd fod yr ysgwïer a berchenogai y rhan fwyaf ohono, a'r man gymoedd yn rhedeg allan ohono, wedi colli arno'i hun, ac wedi ei roddi mewn sefydliad i'r perwyl hwnnw yn agos i Lundain er cyn cof i mi, a'r plas yn wag; ei wraig, yr hon oedd Saesnes, a heb yr un aer, yn byw'n wastraffus neu'n celcio arian iddi ei hun, am mai i nai ei phriod yr oedd yr ystad i fyned ar ei ôl. Ni wariai ddim ar yr adeiladau; y cwbl a wnâi oedd hel y rhent. Aeth yr ystad i ddyled, a bu raid gwerthu rhannau helaeth ohoni ddwy waith yn fy nghof i.

Pan gyrhaeddais Gwm Eithin yr oedd pawb yn ddieithr i mi. Nid oedd yno gymaint ag un wyneb a welswn erioed o'r blaen, a theimlwn yn swil, ond buan iawn y deuthum i adnabod y plant bach, plant capel Cwm Eithin, a phlant Llanaled, lle y mynych gyrchwn i Siop Lias am chwarter o de un geiniog ar ddeg, pwys o siwgwr coch grôt, neu bwys o siwgwr gwyn pum ceiniog; ac os byddai rhywun pwysig yn debyg o ddyfod i de, pwys o siwgwr