Tudalen:Cwm Eithin.djvu/205

Gwirwyd y dudalen hon

loaf chwe cheiniog, ac i siop Sian Jones am werth swllt o flawd i wneud torth ganthreg.

Diau na fyddai hanes bywyd gwledig Cwm Eithin agos yn gyflawn heb bennod ar ddyddiau ysgol—cyfnod mwyaf rhamantus a diddorol ym mywyd hogyn, er iddo barhau'n hogyn ar hyd ei oes, ac yn enwedig gan iddo agor ei lygaid yng Nghymru pan oedd y werin yn dechrau dyfod i gredu y dylai pob plentyn gael rhyw ychydig o addysg a dysgu ysgrifennu, er bod llawer yn eredu nad oedd angen am y fath beth. Nid oedd yn ddim ond balchter, a gwell i'r plant er eu lles oedd dechrau ennill eu tamaid cyn gynted ag y medrent. "Ni chafodd 'nhad a mam ddim ysgol, ac fe wnaethant hwy yn iawn; maent yn y nefoedd ers blynyddoedd, ac ni chawsom ninnau ddim ysgol. By be ydi'r helynt sydd ar yr hen bregethwrs yma ac eraill hefo'u haddysg a'u haddysg o hyd?" Yr oedd llawer o ieuenctid Cwm Eithin ychydig o flynyddoedd yn hŷn na mi heb gael dim ysgol bron.

Erbyn fy amser i yr oedd pethau wedi newid: yr oedd y Cwm wedi deffro drwyddo, ac nid wyf yn meddwl fod nemor un o'm cyfoedion na fuont yn yr ysgol bob dydd am ryw gymaint o amser. Pan symudais i o Gwm Annibynia i Gwm Eithin yr oeddwn rhwng chwech a saith oed, heb fod mewn ysgol ond Ysgol Sul. Yr oedd hi yn frwydr boeth iawn rhwng yr Ymneilltuwyr a hen berson Llanfryniau. Ni newidiais fy mhlwyf er symud o Gwm Annibynia i Gwm Eithin (yn drawiadol iawn mewn plwy o'r un enw, yn ôl cyfieithiad "Dewi o Ddyfed," yr wyf wedi bod ar hyd fy oes). Aeth yn ymladdfa rhwng y Person. a'r Ymneilltuwyr ar gwestiwn addysg. Yr oedd yno ryw fath o ysgol wedi bod yn Llanfryniau mewn hen dŷ neu ryw fath o adeilad isel yn ymyl y Ficerdy, ond yr oedd wedi myned yn sâl ac anghyfleus. Tua'r adeg honno, codwyd ysgoldy yn ymyl yr eglwys—"Yr Ysgol Frics," fel y galwem ni hi, a ffermwyr y cylch, a'r rhai hynny yn Ymneilltuwyr bob un, wedi gwneuthur eu rhan at ei chodi trwy gyfrannu a chario ati. Yn fuan dechreuodd y Person fyned i'r ysgol fore Llun i edrych pwy a fyddai yno, ac anfon y plant na fyddent wedi bod yn yr Eglwys fore Sul adref i ddywedyd wrth eu rhieni oni ddeuent i'r Eglwys y Sul na chaent ddyfod i'r ysgol. Arweiniodd hyn i frwydr boeth rhwng y Person a'r Ymneilltuwyr. Ei amcan oedd gorfodi'r Ymneilltuwyr i ddyfod i'r Eglwys neu eu niweidio trwy rwystro i'w plant gael addysg. Ond fe drowyd Cyngor Ahitophel' yn ffolineb y tro hwn fel llawer tro arall; deffrôdd hyn yr Ymneill-