Tudalen:Cwm Eithin.djvu/206

Gwirwyd y dudalen hon

tuwyr i waelod eu bodolaeth; ymgynddeiriogasant y mynnent addysg i'w plant. Nid dynion gwellt mo bobl Cwm Eithin. Onid yno y magwyd merthyron y degwm? Onid hwy a fu'n ysgwyd gwr o'r enw Mwrog, y "bwm bailiff," a ddaeth i gasglu y degwm ar ran Esgob Llanelwy, fel bretyn ar ganllaw Pont y Glyn, a'i anfon yn waglaw i'w wlad ei hun? Onid hwy a ddioddefodd garchar yn Rhuthyn am eu gwaith? Ie, cafodd rhai o'm cyfoedion, ar ôl i mi droi fy nghefn ar yr ardal, y fraint o fod yn ferthyron y degwm. Cefais innau'r fraint o gasglu ychydig arian at gostau eu hamddiffyniad. Maent i gyd ond chwech wedi croesi i'r wlad lle mae rhyddid a chydraddoldeb. Heddwch i'w llwch.[1]

Cofiaf yr Hen Berson yn dda. Yr oedd mewn gwth o oedran pan welais ef gyntaf. Gŵr o Sir Aberteifi ydoedd. Fel y dywedodd "Wil Bryn Hir" wrtho un tro: "Mi welaf ar eich pen mai un o Sir Aberteifi ydech chwi, lle y mae nhw yn magu mochyn a pherson ym mhob tŷ tlawd." Er ei gulni at yr Ymneilltuwyr, yr oedd yn ŵr rhadlon ar lawer cyfrif; yn gymydog caredig iawn; meddai bersonoliaeth gref, pen mawr, gwallt gwyn cyrliog. Bûm yn ei dŷ lawer tro yn talu'r degwm, a chawn fara a chaws ganddo bob amser, a gwahoddiad i'r Eglwys. Deuai i hela i'm cartref. Meddai wn a miliast ruddgoch gyflym ei throed; canlynai'r byddigions o'r Plas. Yr oedd yn ustus heddwch; anfonodd aml hogyn i'r carchar am saethu petrisen, fy athro i yn yr Ysgol Sul yn eu mysg, a hynny, mae'n debyg, ar ddarn o'r mynydd yr oedd rhywun dipyn cyn hynny wedi ei ddwyn oddi ar y tlodion. Mae'n debyg ei fod yn credu y cyflawnai ddyletswyddau ei weinidogaeth bwysig wrth wneuthur hyn, a phlesio'i nawddogwyr. Dywedid mai anodd cael ei ail mewn cinio. Priodolid iddo'r dywediad am yr ŵydd' mai ffowlyn digon anfelys oedd hi i ginio, ei bod yn ormod o ginio i un, a heb fod yn ddigon i ddau.

Gwnâi'r Person bob ystryw a defnyddiai bob sgriw i orfodi ei holl blwyfolion i fyned i'r Eglwys. Rhag ofn i mi dynnu darlun rhy ddu o'r gŵr parchedig, a bod fy nghof am yr hyn a ddigwyddodd gryn lawer dros drigain mlynedd yn ôl yn chware mig â mi, gwell imi egluro fy mod wedi ysgrifennu'r storïau hyn fwy na phymtheng mlynedd yn ôl pan oeddwn yn wael am wythnosau ar ôl damwain, a heb ddim i'm difyrru fy hun. Cefais fis o seibiant yn awelon iach Cwm Eithin, a holais gryn lawer

  1. Gweler eu darlun ac eglurhad yn yr Atodiad ar y diwedd.