Tudalen:Cwm Eithin.djvu/207

Gwirwyd y dudalen hon

ar yr hen frodorion y pryd hynny am droeon bore oes. Yn ffodus iawn deuthum ar draws merch yr unig siop oedd yn Llanfryniau y pryd hynny, ac sydd gyfoed â mi ac oedd yn yr Ysgol Gerrig yr un pryd â mi, nas gwelswn ers mwy na hanner can mlynedd. Ond wrth holi am hen gyfoedion, deuthum o hyd iddi. Aeth yn ymgom rhyngom am yr hen amser gynt. "Chwi gofiwch," meddai, "mai gennym ni yn y siop yr oedd y Post Office. Llawer gwaith y bygythiodd yr hen Berson fy nhad, os gadawai i ni'r plant fyned i'r capel y cymerai y Post Office oddiarnom." Aml i dro," meddai, y cyfarfu â mi ar y llan fore Llun. 'Fuost ti yn y Tŷ Cwrdd yn Nhop y Lôn ddoe yn to? Cofia di mai i uffern yr aiff y plant sydd yn mynd ono i gyd; fe gânt eu llosgi i gyd yn greision mewn llyn o dân a brwmstan.' Cyfarfum â brawd arall ychydig yn hŷn na mi, a gafodd ei anfon adref aml dro ar fore Llun am beidio â myned i'r Eglwys fore Sul. "Arferai fy nhad a'm mam,' meddai, fy anfon i'r Eglwys ar fore Sul weithiau. Cofiaf yn dda iawn un bore Llun nad oeddwn wedi bod yn yr Eglwys. Daeth y Person ataf. Lle buost ti bore ddoe?' meddai. 'Gartre yn gwarchod i mam fynd i'r capel,' ebe finnau yn ddigon diniwed. Gwylltiodd y tro hwnnw yn waeth nag arfer." Ebe'r un gŵr, "Hen frawd practical iawn oedd yr hen Berson; ni wnâi lawer o ragor rhwng Sul a diwrnod arall. Cofiaf wrth ddyfod allan o'r Eglwys un bore Sul ei glywed yn gweiddi ar ôl un o'r bechgyn, 'Hei, dywed wrth dy fam am ddwad acw i godi tatws yfory."

Aeth yr ymladdfa yn dost rhwng y Person a'r Ymneilltuwyr ar gwestiwn yr ysgol. Gwrthododd y Person yn bendant adael i blant yr Ymneilltuwyr fyned i'r ysgol onid aent i'r Eglwys fore Sul. Plygodd rhai i anfon eu plant, ond gwrthododd eraill yn bendant. A'r diwedd fu i'r Ymneilltuwyr adeiladu ysgoldy bach o gerrig yn mesur chwe llath wrth naw llath ar lan yr afon ar ganol y pentre ar gyfer yr Eglwys, a bu'n ddolur llygad i'r hen Berson tra fu byw, ac efallai ei fod wedi byrhau ei oes. Meddai un o'm cyfoedion wrthyf:. "Fe lifodd yr afon yn fawr fel y gwnâi yn aml, ond y tro hwn fe dorrodd o dan y dorlan ac fe weithiodd dwll o dan sylfaen ochr yr ysgol gerrig. Gwelodd yr hen Berson law rhagluniaeth yn y peth. Y rhai am iddynt ddianc o Eglwys ac o Ysgol Frics ni ad dialedd iddynt fyw!' Ond er iddo weddïo am iddi syrthio, ni wnaeth, a buan y llanwodd yr Ymneilltuwyr y twll â cherrig mawr, a safodd yr ysgol gerrig ac fe synnodd yr hen Berson." Y mae'r hen golegdy, er wedi