Tudalen:Cwm Eithin.djvu/208

Gwirwyd y dudalen hon

ei droi yn warehouse siopwr, yn sefyll heddiw, yn edrych mor gadarn ag erioed, yn dystiolaeth i fuddugoliaeth rhyddid ar drais a gorthrwm. Bûm yn tynnu fy nghap iddo, ac yn syllu gydag edmygedd mawr arno yn ddiweddar.

Diau fod llawer Eglwyswr ac aml Ymneilltuwr erbyn hyn yn methu â deall beth oedd wrth wraidd y cri am Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru, a pheth a roddodd fod i Ryfel y Degwm. Ond cofio'r nifer o ddynion culion, dialgar oedd yn llenwi pulpudau'r Llannau, ni raid i neb synnu. Diau fod hen Berson Cwm Eithin yn un o'r rhai mwyaf eithafol. Prawf o hynny yw mai yno yn unig y magwyd nifer o ddynion a gafodd eu galw yn "Ferthyron y Degwm." Cofier hefyd nad yw'r amser y soniaf amdano ond rhyw bymtheng mlynedd yn ddiweddarach na'r amser y cyhoeddwyd "Brad y Llyfrau Gleision," ac mai ei gyfoedion, ac efallai aml un iau nag ef, a fu'n rhoddi eu tystiolaeth o flaen y Ddirprwyaeth Frenhinol Saesneg, rhai a ddaeth i'r casgliad mai un o'r pethau mwyaf niweidiol a ddaeth i Gymru erioed oedd ei Hymneilltuaeth. Gwelodd y Ddirprwyaeth chwech o smotiau duon mawr ar gymeriad Cymru: 1, Diffyg gwareiddiad; 2, Diffyg gwybodaeth; 3, Meddwdod; 4, Anniweirdeb; 5, Ein hiaith; 6, Ein Hymneilltuaeth. Yr oedd y pedwar cyntaf yn gynhyrchion y ddau olaf. Diffyg gwareiddiad a diffyg gwybodaeth yn codi o'r ffaith na fedrai'r trigolion siarad Saesneg. Meddwdod ac anniweirdeb Cymru i'w olrhain i'w Hymneilltuaeth. Fel y canlyn y symia un o'r Dirprwywyr ei Adroddiad i fyny:—

"Y mae'r iaith Gymraeg yn cadw Cymru i lawr yn enbyd, ac yn gosod lliaws o atalfeydd ar ffordd cynnydd moesol a llwyddiant masnachol y genedl. Anodd ydyw gorbrisio ei heffeithiau er niwed. Ceidw y bobl oddi wrth gyd—drafodaeth a'u dyrchafai yn fawr mewn gwareiddiad, ac atalia wybodaeth fuddiol i mewn i'w meddyliau. Gwelir effeithiau andwyol yr iaith Gymraeg yn eglur ac alaethus yn y brawdlysoedd. Mae yn gwyrdroi y gwirionedd, yn ffafrio twyll, ac yn cefnogi anudoniaeth." "Dywedir," meddai drachefn, "fod y diffyg o ddiweirdeb yn cael ei gynhyrchu yn arbennig gan y cyfarfodydd gweddio hwyrol, a'r cydgyfeillachu sydd yn canlyn wrth ddychwelyd adref. Haeriad eithaf naturiol offeiriad o Eglwys Loegr," meddai, "ydyw fod profiad maith wedi fy argyhoeddi i o gymeriad mwy heddychlon a theyrngarol y