rhai hynny o'r dosbarth isaf sydd yn aelodau yn y Llan, na'r rhai a berthyn i'r sectau eraill."[1]
Felly nid yw'n unrhyw syndod fod y Cymry wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn Eglwys Loegr a thalu degwm at ei chynnal.
Cafwyd gwahanol bersonau i addysgu plant yr Ysgol Gerrig. Bu mab y dafarn yno am dymor, ac yna merch y gweinidog Annibynnol. Ymhen peth amser, caed hen lanc o ysgolfeistr wedi cael addysg bur dda, wedi bod mewn siop lyfrau yn y Strand, Llundain, ac yn ddysgwr da iawn. Enillodd yr Ysgol Gerrig enw da iddi ei hun; deuai aml hogyn mawr o dipyn bellter o ffordd yno am chwarter neu hanner blwyddyn yn y gaeaf i berffeithio ychydig arno'i hun. Cefais innau nifer o chwarteri yno ar ôl i mi adael ysgol Llanaled, ond arhoswn gartref yn yr haf i dorri gwair ac ŷd.
Pan oeddwn i yn yr ysgol nid llawer o gydnabyddiaeth oedd rhyngom ni, blant yr Ysgol Gerrig, â'r dyrnaid plant oedd yn yr Ysgol Frics. Teulu'r gynffon, cadwent hwy yr un ochr â'r Eglwys a'r Ysgol Frics i'r afon, tra yr arhosem ni ar yr un ochr â'r Ysgol Gerrig a'r Efail i'r afon. Ond pe buasai yn myned yn ymladdfa, ni fuasai gan gwlins yr Ysgol Frics ddim siawns yn erbyn crymffastiau'r Ysgol Gerrig. Felly yr aeth pethau ymlaen hyd nes y daeth y Bwrdd Ysgol. Cynhelid yr Ysgol Gerrig gan roddion gwirfoddol a cheiniogau'r plant.
Ni wn pa fath bregethwr oedd yr hen Berson, oherwydd yr oedd yr helynt ynghylch yr ysgol wedi peri i mi gasáu'r Eglwys. Dwy waith y bu fy nhroed erioed o'i mewn; y tro cyntaf pan oeddwn tua thair ar ddeg oed yng nghladdedigaeth un o'm hen flaenoriaid; a'r ail waith pan ddaeth y Person newydd yno. Yr oeddwn wedi ei glywed ef yn pregethu o'r blaen mewn gwylnos pan oedd yn Berson Llanllonydd, ac wedi ei hoffi.
Da gennyf allu dywedyd nad oedd pob Person fel hen Berson Llanfryniau. Yn Llanaled, y plwyf agosaf i mi, yr oedd yno wr hawddgar a da, llydan ei orwelion, yn Berson, a rhyddid i bawb anfon eu plant i'r ysgol ar yr un telerau. Ac fel y digwyddai fod, yr oedd fy nghartref i ar derfyn y ddau blwyf, dim ond milltir union i Lanaled, tra yr oedd dros ddwy filltir o ffordd i Lanfryniau, prif ac unig bentref fy mhlwyf fy hun. Felly i Lanaled y cefais fy anfon i'r ysgol. Ac fel y canlyn y bu.