yr oedd yno ysbryd, a llawer un wedi ei weled. Yr oedd yno ladron hefyd, ac aml un wedi colli ei watch a chymaint ag a feddai o bres. Felly trefnai'r bechgyn i fyned yn finteioedd gyda'i gilydd. Meddyliai'r bechgyn lawer o'r siwrnai i'r glo. Diwrnod i'w gofio ym mywyd hogyn oedd y diwrnod cyntaf yr aeth i'r glo. Mawr fyddai'r paratoi y diwrnod cynt, golchi ac iro'r drol, glanhau gêr y ceffylau a phlethu eu cynffonnau. A chymerai 'r ceffylau hwythau ddiddordeb mawr yn y peth. O mor heini a gwisgi y cychwynnent! Nid oes gwestiwn yn fy meddwl nad yw ceffyl yn greadur balch, a gŵyr yn iawn pan fo'r hogyn gyrru'r wedd wedi plethu ei gynffon, a rhoddi seren bres ar ei dalcen a rhubanau yn ei fwng. A pha le y gweir golygfa harddach a mwy arddunol na gwedd o dri neu bedwar ceffyl yn cychwyn i siwrnai ac yn cystadlu â'i gilydd am y mwyaf urddasol i ddal eu pennau, ac am y mwyaf heini i godi cu traed ? Pa hogyn gyrru'r wedd na theimlodd iasau o hyfrydwch pan fyddai'n rhoi clec ar ei chwip i gychwyn, a'r ceffylau yn prancio ac yn dawnsio mewn llawenydd wrth glywed ei glec, fel pe'n dywedyd ynddynt eu hunain, " Mi gymerwn ni arnom ddychrynu rhag dy ofn di a'th chwip i'th blesio di, ond mi wyddom ni yn dda nad oes llawer o berygl yn dy glec di ?"
Er hynny siwrnai ddigon digalon oedd siwrnai i'r glo ar dywydd garw rhew ac eira. Ni feddyliai'r hogiau ddim o golli cysgu am noswaith neu ddwy, ac ni feddyliodd yr un ohonynt erioed am overtime am wneuthur hynny. Ond byddai'r oerni a'r gwlybaniaeth yn dywedyd arnynt. Clywais am hen wraig o